Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynghorau'n wynebu bwlch ariannu o bron i 拢750m
Fe allai gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan gynghorau lleol Cymru gael eu heffeithio'n ddifrifol gan brinder cyllid yn y blynyddoedd i ddod, meddai arbenigwyr cyllid.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif y gallai'r bwlch ariannu gyrraedd bron i 拢750m erbyn 2027.
Dywedodd yr arbenigwr ar gyllid cyhoeddus, Guto Ifan fod galwadau o ran gwariant yn debygol o fod yn fwy na'r cynnydd disgwyliedig mewn cyllid.
"Fe allai hyn gael effaith ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol," rhybuddiodd.
Mae pwysau gwariant diweddar wedi cynnwys codiadau cyflog i staff ac athrawon llywodraeth leol, er gwaethaf y ffaith bod llawer o weithwyr wedi profi toriadau cyflog mewn termau real yn ystod cyfnod o chwyddiant uchel.
'Penderfyniadau anodd'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn "wynebu penderfyniadau anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd 芒'r heriau cyffredin rydyn ni'n eu hwynebu".
Mae cynghorau yn gyfrifol am wasanaethau gan gynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol, tai, trafnidiaeth a phriffyrdd, hamdden, llyfrgelloedd, ailgylchu a chasglu sbwriel.
Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar gynlluniau gwariant dangosol Llywodraeth y DU, sy'n cynnig toriadau sylweddol ac felly gwasgfa fawr ar gyllid i Lywodraeth Cymru.
Mae'r adolygiad yn awgrymu y gallai cynghorau liniaru diffygion yn y flwyddyn ariannol 2024-25 drwy dynnu ar gronfeydd wrth gefn, codi'r dreth gyngor o fwy na 5% a derbyn rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru.
'Anghynaliadwy'
Wedi hynny, mae'r ddogfen yn rhybuddio y bydd y bwlch ariannu yn tyfu bob blwyddyn ac yn cyrraedd 拢744m erbyn 2027, yr hyn y mae'r adroddiad yn ei alw'n "lwybr anghynaliadwy".
Mae'r adolygiad hefyd yn rhybuddio os yw gweinidogion yn bwriadu cynyddu gwariant ar iechyd, ysgolion a gofal plant bydd angen iddyn nhw ddod o hyd i doriadau o 拢318m mewn termau real erbyn 2027-28 ym mhob maes arall.
Dywedodd Mr Ifan, o d卯m dadansoddi cyllid Cymru: "Er bod gwasanaethau llywodraeth leol wedi'u harbed rhag y toriadau a gyhoeddwyd ar gyfer eleni, mae'r rhagamcanion a amlinellwyd yn y papur briffio yn awgrymu rhagolygon tymor canolig anodd ar gyfer cyllidebau awdurdodau lleol Cymru.
"Mae chwyddiant a chodiadau cyflog yn debygol o ostwng dros y blynyddoedd nesaf, ond mae pwysau gwariant yn dal yn debygol o fod yn fwy na'r cynnydd a ragwelir mewn cyllid."
Roedd Mr Ifan yn cwestiynu pa mor realistig yw cyflawni'r toriadau pellach hyn yng "nghyd-destun y toriadau dwfn mewn gwariant ers 2010".
"Mae unrhyw gynnydd yng nghyllidebau awdurdodau lleol yn debygol o ddod o lefelau uwch o dreth cyngor, sy'n cymryd mwy o arian yn gymesur oddi wrth aelwydydd tlotach yng Nghymru," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor fel rhan o gytundeb cydweithio gweinidogion Llafur gyda Phlaid Cymru.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynyddu cyllid awdurdodau lleol ar gyfer eleni "gyda chynnydd o 7.9% ar draws Cymru ar sail tebyg am debyg".
"Mae hyn yn dilyn cynnydd o 9.4% yn 2022-23. Ond rydyn ni'n cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd ac rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd 芒'r heriau cyffredin rydyn ni'n eu hwynebu."
Ymateb
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Sam Rowlands: "Gyda thrigolion sy'n gweithio'n galed yn parhau i wynebu cynnydd yn y dreth gyngor, rydyn ni'n galw am adolygiad llawn o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol, ac i sicrhau bod cynghorau'n defnyddio eu cronfeydd wrth gefn cyn taro trigolion gyda threth cyngor uwch."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid a llywodraeth leol, Peredur Owen Griffiths, fod angen "eglurder brys" ar gynghorau gan fod "cymaint o wasanaethau dydd i ddydd o bosib mewn perygl".
"Mae Plaid Cymru yn galw ar weinidogion Llafur i gyhoeddi manylion fesul llinell y penderfyniadau maen nhw wedi'u gwneud ac egluro beth fydd y canlyniadau i gynghorau Cymru," meddai.