'Ymchwilwyr heb ystyried honiad postfeistr o Ynys M么n'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Noel Thomas a'i ferch Sian y tu allan i'r llys yn Llundain ar 么l y dyfarniad i ddiddymu ei euogfarn yn 2021

Mae dyn oedd 芒 chyfrifoldeb am ymholiadau twyll mewnol Swyddfa'r Post yn dweud na wnaeth ei d卯m o ymchwilwyr erioed gwestiynu data'r system gyfrifiadurol Horizon a arweiniodd at erlyn postfeistri ar gam.

Daeth sylwadau Tony Utting, a oedd wrth y llyw rhwng 2004 a 2007, yn ystod pump awr o dystiolaeth i'r ymchwiliad i'r meddalwedd.

Fe gafodd cannoedd o is-bostfeistri, gan gynnwys nifer o Gymru, eu cyhuddo - a'u carcharu mewn nifer o achosion, ac mae dros 80 o euogfarnau bellach wedi eu diddymu.

Cafodd Mr Utting ei holi ynghylch dogfennau oedd yn rhan o'r achos yn erbyn y cyn-isbostfeistr o Ynys M么n, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam ar gyhuddiad o gadw cyfrifon ffug.

Dangosodd Jason Beer KC, bargyfreithiwr i'r ymchwiliad, gais i ddarparwyr y system gyfrifiadurol, Fujitsu, am ddata swyddfa bost Gaerwen, yr oedd Mr Thomas yn ei rhedeg, dros sawl wythnos yn 2005.

Ynghyd 芒 chofnod o alwadau Mr Thomas i linell gymorth, roedd yna gais am "archwiliad manwl o'r system yn gyffredinol gyda golwg ar wrthbrofi honiad y Postfeistr bod yna nam gyda thrafodion" yn ymwneud 芒 chyfrifon cardiau a bancio ar-lein.

Gofynnodd i Mr Utting a oedd y cais i "wrthbrofi" honiadau Mr Thomas bod yna nam, yn fethiant i gadw meddwl agored ynghylch beth oedd yn digwydd.

Atebodd Mr Utting nad oedd yn "ymddangos yn wyddonol iawn" ac fe gytunodd ag awgrym Mr Beer bod y cais yn un "awgrymog".

Ffynhonnell y llun, Yui Mok

Disgrifiad o'r llun, Roedd Noel Thomas ymhlith dros degau o is-bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam o dwyll, dwyn neu o gadw cyfrifon diffygiol

Roedd y ddogfen, gan reolwr achos o fewn t卯m Mr Utting, yn rhybuddio staff Fujitsu: "Cadwch mewn golwg, os gwelwch yn dda, ein bod yn ymchwilio i ddiffyg sylweddol yn y cyfrifon a phe bai hyn yn arwain at erlyniad, gallwn fod yn gofyn am ddatganiad tystiolaeth ategol."

Holodd Mr Utting ynghylch ei adroddiadau misol i bwyllgor gweithredol Swyddfa'r Post ar berfformiadau'r adran archwilio, gan ofyn a oedd erioed wedi codi unrhyw broblemau gyda system.

"Petawn ni wedi gweld nifer fawr o achosion ble roedd amheuaeth yn cael ei godi ynghylch Horizon, fe fyddai, mwyaf tebyg, wedi mynd i'r adroddiad yna'n eithaf sydyn," atebodd, ond dywedodd nad oedd yn cofio i hynny ddigwydd tra roedd yn gyfrifol am yr adran.

Ychwanegodd Mr Utting. "Doedd dim arwydd i ni bod yna unrhyw fath o broblem systematig gyda system Horizon."

"Roedd yna achosion ble roedd pobl yn dweud bod yna broblemau gyda Horizon. Hyd y cofiaf, roedden nhw'n brin iawn, ac fel arfer, roedd y dystiolaeth gyda ni'n awgrymu nad Horizon oedd y broblem."

Gofynnodd Mr Beer pa mor ddefnyddiol fyddai data Horizon i ymchwiliad, ac a oedd modd cadarnhau honiadau mai nam yn hytrach na thwyll oedd i gyfri am ddiffygion ariannol.

"Rhaid i chi gofio ein bod yn byw mewn byd ble roedden ni'n cael gwybod, ac yn credu, bod dim problem gyda Horizon," dywedodd Mr Utting.

"Felly oni bai bod modd cadarnhau trafodiad oedd wedi achosi diffyg - ac roedden ni ar ddeall nad oedd Horizon yn creu trafodiad o'r fath - doeddech chi ddim am gael at wraidd y peth."

Fe agorodd yr ymchwiliad statudol i'r sgandal Horizon, dan arweiniad y barnwr Uchel Lys wedi ymddeol, Syr Wyn Williams, ym mis Chwefror 2022 yn dilyn gwrandawiadau rhagarweiniol.

Gorchwyl yr ymchwiliad yw llunio adroddiad i fethiannau system gyfrifiadurol Horizon yn Swyddfa'r Post a arweiniodd at ddiarddel, erlyn a chollfarnu is bostfeistri.