Nifer o Gymry ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Shirley Bassey, 86, ei bod hi "wir yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth"

Mae enwogion, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr elusennol o Gymru ymhlith y rhai sydd wedi'u cydnabod yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Mae'r Fonesig Shirley Bassey, gwraig yr awdur Roald Dahl, Felicity, a Phrif Weithredwr newydd Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, ymhlith yr enwau mwyaf cyfarwydd ar y rhestr.

Dywedodd y Fonesig Bassey fod cael ei hanrhydeddu gan y Brenin Charles III am ei gwasanaeth i gerddoriaeth yn "deimlad anhygoel".

Ymysg y Cymry eraill ar y rhestr mae mam o Wynedd a sefydlodd elusen yn dilyn marwolaeth ei mab, a merch 13 oed sydd wedi codi dros 拢200,000 ar gyfer elusennau canser.

Ychwanegodd Ms Bassey - sy'n derbyn yr un anrhydedd 芒 sydd eisoes wedi ei roi i Syr Paul McCartney ac Elton John - bod "diddanu cynulleidfaoedd am dros 70 mlynedd wedi bod yn fraint" a'i bod hi "wir yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth".

Mae Felicity Dahl, wnaeth sefydlu elusen Roald Dahl's Marvellous Children, wedi derbyn Cadlywydd y Fonesig (Dames Commander) am ei gwasanaethau i ddyngarwch, llenyddiaeth a phobl ifanc.

Mae Amanda Blanc, cyn-aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru, yn derbyn yr un anrhydedd am ei gwasanaeth i fusnes a chydraddoldeb rhyw.

Fe wnaeth Ms Blanc ymddiswyddo o'i r么l o fewn yr Undeb eleni yn sgil ymchwiliad gan 大象传媒 Cymru i "ddiwylliant gwenwynig" o fewn URC.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Debbie Turnbull nad oedd hi'n gallu credu ei bod hi ar y rhestr

Mae mam o Wynedd - a gollodd ei mab 15 oed wedi iddo foddi yn Afon Llugwy yn Eryri - yn derbyn MBE am wasanaethau i addysg diogelwch d诺r i bobl ifanc a theuluoedd.

Cafodd River and Sea Sense ei sefydlu gan Debbie Turnbull ar 么l i'w mab Christopher farw wedi iddo ddisgyn i'r d诺r yng Nghapel Curig ym mis Awst 2006.

"Cefais i lythyr ryw fis yn 么l, ac ar 么l deall beth oedd o, do'n i methu siarad," meddai Ms Turnbull sydd bellach yn byw yn Nhreffynnon.

"Roedd fy ng诺r yn sefyll wrth fy ymyl ac roedd o'n meddwl efallai taw newyddion drwg oedd o... llwyddais i ddweud y gair MBE ac wedyn fe ddisgynnais i'r llawr yn fy nagrau.

"Mae'r hyn 'da ni wedi bod drwyddo fel teulu wedi bod yn hunllefus. Yr oll yr ydw i eisiau ei wneud r诺an ydy codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch d诺r, a cheisio achub mwy o fywydau."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Ken Fitzpatrick, mae'r anrhydedd yn wobr i bawb sy'n rhan o wasanaeth yr RNLI yn y gogledd

Mae Ken Fitzpatrick, cyn-swyddog morwrol harbwr a harbwrfeistr ym Mhwllheli, Porthmadog a'r Bermo yn derbyn BEM am ei wasanaeth i ddiogelwch morol.

Ers ymuno 芒'r RNLI yn 17 oed ym 1967, mae Mr Fitzpatrick wedi treulio 44 o flynyddoedd gyda'r gwasanaeth fel aelod o staff neu gwirfoddolwr.

Mae o bellach yn gwirfoddoli fel rheolwr gweithrediadau bad achub ym Mhorthdinllaen, ac yn ystod ei gyfnod gyda'r RNLI mae 120 o fywydau wedi cael eu hachub.

'Sioc enfawr'

"Dwi'n hynod o falch o'r gwaith dwi 'di gyflawni gyda'r RNLI. Mae o wastad wedi bod yn rhan ohonai, mae o fel teulu mawr ac mae'r wobr yma i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r teulu yma yng ngogledd Cymru," meddai.

"Roedd o'n sioc enfawr i fi, doeddwn i 'rioed yn disgwyl cael fy anrhydeddu fel hyn... da' chi'm yn 'neud y gwaith yma er mwyn cael eich gwobrwyo."

Cafodd Mr Fitzpatrick ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan hefyd fel cydnabyddiaeth o'i waith gwirfoddol.

Hefyd wedi ei anrhydeddu mae Euros Hefin Edwards - Rheolwr Gorsaf D芒n Crymych.

Wrth ei longyfarch dywedodd John Davies, cyn-arweinydd Cyngor Penfro "bod yr ardal yn diolch iddo am oes o wasanaeth o 44 o flynyddoedd diflino o arwain a chynnal y gwasanaeth t芒n yn lleol gan gynnwys yr ymatebydd cyntaf".

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth T芒n ac Achub y Canolbarth "ym 1998, bod Euros yn allweddol wrth gyflwyno'r cynllun Cyd-Ymatebydd i Grymych, menter sydd wedi achub llawer o fywydau, ac mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth godi dros 拢40,000 i brynu cerbyd newydd ar gyfer yr Orsaf D芒n".

Wrth s么n am wobr Euros, dywedodd y Prif Swyddog T芒n Roger Thomas: "Rwy'n falch iawn bod ymrwymiad ac ymroddiad Euros wedi cael eu cydnabod gan Ei Fawrhydi'r Brenin yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2024. Mae'r fedal hon yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad gydol oes Euros i'w gymuned leol a'r arweinyddiaeth y mae wedi'i rhoi i'r criw yng Ngorsaf D芒n Crymych."

Disgrifiad o'r llun, Mae Elly wedi bod yn codi arian i gefnogi elusennau wnaeth gefnogi ei thad Lyn

Cafodd Elly Neville, sy'n 13 oed ac yn dod o Sir Benfro, ei disgrifio fel 'gwyrth' pan gafodd ei geni, ac mae hi bellach wedi helpu i godi dros 拢200,000 o bunnau i elusennau canser.

Mae Elly yn derbyn BEM am ei gwasanaethau i gleifion canser, ar 么l codi arian ar gyfer yr ysbyty a helpodd ei thad.

Cafodd Lyn Neville wybod na fyddai'n gallu cael plant wedi iddo gael ei drin am fath prin o ganser y gwaed yn 2005 - pum mlynedd cyn genedigaeth Elly.

Mae hi wedi bod yn codi arian ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac elusennau canser ers ei bod yn bump oed ac mae ei gwaith wedi denu cydnabyddiaeth a chanmoliaeth gan unigolion fel y Dalai Lama a'r cyn-Brif Weinidog Theresa May.

Disgrifiad o'r llun, Mae Amanda Blanc, cyn-aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru, yn un o'r Cymry amlycaf ar y rhestr eleni

Un arall sy'n cael ei anrhydeddu ydy Sadio Sadiq, sy'n 46 oed ac yn dod o Gaerdydd.

Mae Ms Sadiq yn derbyn MBE am ei gwasanaeth i gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru ar 么l iddi sefydlu elusen iechyd meddwl.

Wrth weithio fel cwnselydd gyda'r gwasanaeth iechyd, dywedodd ei bod hi'n ymwybodol nad oedd gwasanaethau yn delio yn effeithiol ag anghenion crefyddol neu ddiwylliannol rhai cymunedau.

"Dwi wir yn gwerthfawrogi'r ffaith bod rhywun wedi cydnabod y gwaith 'da ni yn ei wneud, gan ei bod hi wedi bod yn anodd iawn ar adegau... Ro'n i eisiau cefnogi teuluoedd eraill a gwneud yn si诺r nad oedden nhw'n teimlo fel ei bod ar ben eu hunain," meddai.

Yn ogystal bydd Peter Jones, o Ynys M么n sy'n Uwch Arbenigwr Mawndir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn derbyn MBE i gydnabod ei wasanaeth yn y maes.

Y tu allan i'r gwaith mae'n aelod o griw glannau'r RNLI yng Ngorsaf Bad Achub Moelfre ar Ynys M么n.

Wrth dderbyn y newyddion am ei anrhydedd, dywedodd Peter Jones: "Roedd yn gwbl annisgwyl - nid yw'n teimlo'n wir. Mae'n fraint enfawr. Ond dim ond un o lawer ydw i - mae llu o bobl ymroddedig yn CNC sy'n gweithio i ddiogelu a gwella ein mawndiroedd hynod, ynghyd ag amgylchedd ehangach Cymru."