Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Zip World i ailagor rhan o Barc Antur Eryri yn Sir Conwy
Mae cwmni Zip World wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ailagor rhan o Barc Antur Eryri yn Sir Conwy.
Bydd Zip World Conwy yn cynnig anturiaethau dan do i ymwelwyr, ond does dim awgrym y bydd y lag诺n syrffio ar y safle yn ailagor.
Fe gaeodd y ganolfan syrffio yn Nolgarrog ym mis Medi 2023, a hynny am resymau ariannol.
Mae Zip World yn dweud y bydd y safle yn ailagor erbyn gwyliau'r Pasg.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydyn ni wedi cyffroi'n l芒n ein bod ar fin agor drysau pedwerydd safle Zip World yng ngogledd Cymru.
"Rydyn ni'n enwog am ein hanturiaethau unigryw yn yr awyr agored, ond bydd Zip World Conwy yn cynnig anturiaethau dan do ac yn gyfle i ddianc rhag yr elfennau drwy gydol y flwyddyn.
"Bydd amrywiaeth o brofiadau i'r rheiny sy'n chwilio am gyffro, gan gynnwys cwrs rhwystrau Ninja, ardal neidio styntiau a sleidiau eithafol."
Yn ogystal 芒 hynny, bydd rhaffau uchel, ardal chwarae meddal i blant bach a bydd y cwmni hefyd yn ailagor y caffi a'r podiau gwersylla pren, fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr aros ar y safle.
Beth am y lag诺n syrffio?
Does dim awgrym y bydd y lag诺n syrffio yn ailagor fel rhan o'r cynlluniau.
Pan agorodd y lag诺n yn 2015 ar safle hen waith alwminiwm, hon oedd y ganolfan syrffio mewndirol gyntaf o'i math yn y DU.
Cafodd y ganolfan ei datblygu ar gost o 拢12m, gyda'r bwriad o ddenu 75,000 o bobl bob blwyddyn.
Ond ym mis Medi 2023, dywedodd y cwmni y byddai'r safle antur yn cau ar unwaith, ond y byddai'r gwesty a'r spa yn parhau ar agor.
"Y realiti trist yw, er y boddhad a'r anturiaethau mae'r tonnau wedi eu rhoi i gymaint fel yr arloesiad cyntaf o'i fath yn y byd, mae'r peiriant wedi costio ffortiwn i ni mewn amser segur, atgyweirio a cholled busnes," meddai'r cwmni bryd hynny.
Mae disgwyl i Zip World Conwy agor ar 22 Mawrth 2024.