Drakeford: 'Ni all ffermwyr wneud be hoffen nhw 芒 chymorthdaliadau'

Ffynhonnell y llun, Brian Lawless

Ni all ffermwyr benderfynu eu hunain sut i wario cymorthdaliadau i'r sector, yn 么l Prif Weinidog Cymru.

Daw sylwadau Mark Drakeford yn dilyn protestiadau diweddar yngl欧n 芒'r newidiadau arfaethedig, fyddai'n gofyn i ffermwyr blannu coed ar 10% o'u tir.

Mae uwch swyddogion o ddau undeb amaeth wedi cynnal trafodaethau brys gyda'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths ddydd Llun er mwyn mynegi eu pryderon am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn deall ei bod yn "amser anodd" i bobl yn ardaloedd gwledig Cymru, ond fod "newid yn anochel".

Cafodd protest ei chynnal yn Y Drenewydd ddydd Sul, ble'r oedd hystings arweinyddiaeth Llafur Cymru'n cael eu cynnal.

Mae protestiadau eraill wedi eu cynnal mewn rhannau eraill o Gymru hefyd gan ffermwyr sy'n gwrthwynebu newidiadau posib i'r system daliadau, a gofynion amgylcheddol newydd.

Disgrifiad o'r fideo, Yn 么l Martin Griffiths, is-gadeirydd undeb yr NFU yng Ngheredigion, y pryder yw bod Llywodraeth Cymru yn "gweud 'tho ni beth i wneud, yn lle siarad gyda ni am shwt ma' 'neud e"

"Rwy'n deall fod hwn yn gyfnod anodd i bobl yng nghefn gwlad Cymru," meddai Mr Drakeford mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun.

"Bod pobl yn teimlo bod eu ffordd o fyw dan ymosodiad gan yr hyn sy'n newid o'u cwmpas... Ond mae newid yn anochel.

"Ni all y cyhoedd roi eu dwylo yn eu pocedi i roi miliynau o bunnoedd - efallai 拢300m bob blwyddyn - ar y bwrdd, i ffermwyr wneud beth bynnag mae ffermwyr eisiau ei wneud ag ef."

Ychwanegodd y prif weinidog fod gan y cyhoedd "hawl i elw ar y buddsoddiad hwnnw".

"Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn flaenoriaeth yn y fargen yna... Wrth gwrs, rydym eisiau gweld ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd mewn ffyrdd sy'n gyson 芒'r argyfwng hinsawdd."

Disgrifiad o'r fideo, Bu tractorau a cherbydau amaethyddol yn rhan o brotest gan ffermwyr ar un o ffyrdd prysuraf Sir G芒r ddydd Gwener

Mynnodd Mr Drakeford fod protestio cyfreithlon "yn bendant yn hawl" ond fod difrod troseddol yn "annerbyniol", wrth iddo rybuddio protestwyr rhag cael effaith enfawr ar fywydau pobl eraill.

Fe wnaeth y prif weinidog, sy'n ymddiswyddo fis nesaf, apelio ar ffermwyr sydd heb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i wneud hynny.

Amaeth mewn 'anrhefn'

Ddydd Llun fe wnaeth y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths hefyd gyfarfod ag arweinwyr undebau amaeth Cymru i drafod y pryderon.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones bod yr undebau wedi galw am gyflwyno newidiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Ffynhonnell y llun, NFU Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bu'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn cynnal trafodaethau gydag uwch swyddogion undebau amaeth bnawn Llun

Wedi'r cyfarfod dywedodd Mr Jones wrth 大象传媒 Cymru bod y gymuned wledig mewn anrhefn ar hyn o bryd.

"Fe wnaethon ni bwysleisio yn gyntaf pa mor gryf yw'r teimladau yng nghefn gwlad - yr ofn a'r pryder ymhlith ffermwyr ar hyd a lled Cymru," meddai.

"Mae miloedd o bobl wedi dod i'n cyfarfodydd, miloedd wedi bod mewn digwyddiadau mewn martiau ar hyd y wlad... mae'n rhaid i'r gweinidog ddeall be yn union sy'n achosi'r teimladau cryf yma."

Ychwanegodd bod yr undebau wedi awgrymu newidiadau penodol i'r cynllun, ac wedi galw am drafodaethau cyson gyda Ms Griffiths.

Beth mae undebau amaeth eisiau newid?

  • Cael gwared 芒'r gofyn i ffermwyr blannu coed ar 10% o'u tir,
  • Darparu cymorth ariannol i ffermwyr heb unrhyw wahaniaethu,
  • Penodi panel gwyddonol annibynnol i edrych ar newid hinsawdd,
  • Cynnal asesiad economaidd manwl cyn llunio'r cynllun terfynol.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman - oedd hefyd yn y cyfarfod - na fydd neb ar eu hennill oni bai bod y cynllun yn newid.

Ychwanegodd eu bod nhw wedi sicrhau bod y gweinidog yn deall maint y pryder a'r rhwystredigaeth ymhlith amaethwyr Cymru ar hyn o bryd.

'Disgwyl newidiadau' i'r cynllun

Dywedodd Lesley Griffiths bod nifer o'r materion a gododd yn y cyfarfod yn debyg i'r rhai sydd eisoes wedi codi yn ystod rhai o'r digwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan y llywodraeth.

"Fe wnes i ategu ein bod ni mewn cyfnod o ymgynghori. Ymgynghoriad sydd yn dal ar agor, a byddwn yn dal i annog pobl i gymryd rhan a rhannu eu teimladau," meddai.

"Fe fyddwn ni'n ystyried pob un ymateb ac unwaith y daw'r ymgynghoriad i ben byddaf yn derbyn dadansoddiad manwl o'r canlyniadau.

"Fel yr ydw i wedi ei ddweud o'r blaen, dwi'n disgwyl y bydd newidiadau yn cael eu cyflwyno i'r cynllun yn sgil hynny."

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod eu hymrwymiad i'r sector amaeth "ar yr adeg heriol hon yn glir iawn".