Catherine, Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth am ganser

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Studios

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Tywysoges Cymru y datganiad am ei diagnosis ar fideo

Mae'r teulu brenhinol wedi cyhoeddi fod Catherine, Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth gychwynnol cemotherapi.

Nid oes manylion am y canser wedi'u datgelu, ond dywedodd y palas eu bod yn hyderus y bydd yn gwella'n llwyr.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y dywysoges mewn datganiad personol: "Rwyf am gymryd y cyfle i ddiolch yn bersonol am y negeseuon o gefnogaeth a'ch dealltwriaeth wrth i mi wella o lawdriniaeth.

"Bu'r misoedd diwethaf yn anodd dros ben i'n teulu cyfan, ond mae gen i d卯m meddygol gwych sydd wedi gofalu amdanaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

"Ym mis Ionawr fe gefais lawdriniaeth yn Llundain, ac ar y pryd y gred oedd nad oedd canser yn bresennol. Roedd y lawdriniaeth yn llwyddiannus, ond fe wnaeth profion wedi hynny ddangos fod canser wedi bod yn bresennol.

"Mae'r t卯m meddygol felly wedi cynghori y dylwn gael cwrs o driniaeth cemotherapi, ac rwyf yn nyddiau cynnar y driniaeth yna.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y tywysog a'r dywysoges gyda'u plant yn Jiwbili 70 y diweddar Frenhines yn 2022

"Wrth reswm roedd hyn yn sioc anferth, ac mae William a finnau wedi gwneud popeth i fedru rheoli hyn yn breifat er mwyn ein teulu ifanc.

"Mae hyn wedi cymryd amser... amser i egluro i George, Charlotte a Louis beth sy'n digwydd mewn modd sy'n briodol iddyn nhw, ac i'w sicrhau y byddaf yn iawn.

"Rwy'n cryfhau yn ddyddiol drwy ganolbwyntio ar y pethau fydd yn cynorthwyo i mi wella.

"Gobeithio y byddwch yn deall ein bod, fel teulu, nawr angen amser, lle a phreifatrwydd wrthi mi gwblhau'r driniaeth.

"Ar yr adeg yma, rwyf hefyd yn meddwl am bawb sydd 芒'u bywydau wedi'u heffeithio gan ganser. I bawb sy'n wynebu'r salwch yma, peidiwch digalonni nac anobeithio. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y dywysoges ym Mhencampwriaeth Tennis Wimbledon yng Ngorffennaf 2023

Does dim disgwyl y bydd Catherine na'r Tywysog William yn ymddangos gyda'r teulu brenhinol ar Sul y Pasg, ac ni fydd yn dychwelyd i ddyletswyddau brenhinol am y dyfodol rhagweladwy.

Dywedodd y palas hefyd bod y Tywysog William yn absennol o wasanaeth coffa ym mis Chwefror oherwydd mai dyna pryd y cafwyd y diagnosis o ganser i'w wraig.

Yr ymateb o Gymru

Dywed elusen canser Tenovus bod cael newydd o'r fath yn anodd i unrhyw un.

Yn 么l yr elusen mae 20,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru bob blwyddyn.

Dywed Lowri Griffiths, Cyfarwyddwr Polisi a Gwasanaethau Tenovus, bod y newyddion yn sioc fawr i gleifion ac yn gallu bod yn anodd, yn enwedig os oes teulu ifanc.

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Prif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething: "Trist iawn clywed y newyddion am Dywysoges Cymru.

"Ar ran pobl ledled Cymru, hoffwn anfon pob dymuniad gorau a'n cefnogaeth at y Dywysoges a'i theulu yn ystod yr amser anodd iawn yma.

"Mae ein meddyliau gyda chi wrth i chi barhau 芒'ch triniaeth."

Disgrifiad o'r fideo, Lowri Griffiths o Tenovus: 'Canser yn anodd i unrhyw berson'

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae fy meddyliau a fy ngwedd茂au i a theulu y Ceidwadwyr Cymreig gyda Thywysoges Cymru a'r teulu brenhinol cyfan yn ysod y cyfnod hwn.

"Mae penderfyniad y Dywysoges i rannu ei diagnosis gyda'r cyhoedd yn codi ymwybyddiaeth i bawb y mae canser wedi cyffwrdd 芒'u bywydau.

"Ry'n yn dymuno yn dda i'r dywysoges wrth iddi frwydro yn erbyn y salwch gan obeithio y bydd hi'n cael amser i wneud hynny yn breifat gyda'i theulu."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru: "Mae canser yn cyffwrdd 芒 bywydau nifer o deuluoedd.

"Ar ran Plaid Cymru hoffwn estyn fy nghydymdeimlad a fy nymuniadau da i'r dywysoges wrth iddi hi a'i theulu wynebu cyfnod anodd."