大象传媒

167% yn fwy o gwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna 190 o gwynion derbynadwy yn erbyn Aelodau o'r Senedd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024

  • Cyhoeddwyd

Roedd yna gynnydd o 167% mewn blwyddyn yn nifer y cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, yn 么l adroddiad blynyddol Comisiynydd Safonau'r Senedd.

190 oedd cyfanswm y cwynion yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024, o'i gymharu 芒 71 yn y 12 mis blaenorol.

Un o'r rhesymau dros y cynnydd, medd y Comisiynydd Douglas Bain, yw'r "ffaith bod dau Aelod rhyngddynt yn destun 58 o gwynion".

Hefyd roedd "un aelod o'r cyhoedd wedi gwneud 26 o gwynion, nad oedd yn erbyn yr un o'r Aelodau hyn".

Serch pryderon ynghylch y ffigyrau, dywed Mr Bain bod ymddygiad cyffredinol yr Aelodau o'r Senedd "yn parhau i fod o safon uchel".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y gyfraith, dyw Douglas Bain ddim yn cael rhoi gwybodaeth am unrhyw g诺yn benodol wrth gyhoeddi ei adroddiad blynyddol

O'r cwynion a ddaeth i law rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, roedd wnelo:

  • 53 ag ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol;

  • 17 芒 safon y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Aelodau;

  • 29 ag ymddygiad yn ystod cyfarfod llawn yn y siambr neu ymddygiad weinidogol; a

  • 24 芒 methu 芒 chofrestru neu ddatgan buddiant o fewn pedair wythnos, yn unol 芒'r rheolau.

Roedd y 67 sy'n weddill yn ymwneud "ag ystod eang o faterion gan gynnwys polisi Llywodraeth Cymru a materion eraill nad ydynt o fewn cylch gwaith y Comisiynydd".

Roedd yna gynnyd hefyd yn nifer y cwynion sy'n annerbyniadwy, sef 159 - y cyfanswm uchaf mewn pedair blynedd.

Roedden nhw'n annerbyniadwy yn bennaf oherwydd diffyg tystiolaeth ategol digonol neu am eu bod yn ymwneud ag ymddygiad na fyddai, pe bai'n cael ei brofi, yn torri'r rheolau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yr un nifer o gwynion yn erbyn ac o blaid y terfyn cyflymder newydd o 20mya

Daeth 30 o gwynion i law hefyd ynghylch y terfyn cyflymder newydd o 20mya, yn bennaf trwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Roedd hanner yn gwrthwynebu'r terfyn newydd a'r hanner arall yn gefnogol.

O'r 30 o gwynion, roedd 26 yn annerbyniadwy.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio ar yr ymchwiliad i Rhys ab Owen, a ddaeth i'r casgliad ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Senedd.

Fe gafodd ei atal am 42 diwrnod ond fe ddychwelodd i'r Senedd ym mis Mai.

'Mwy o ddiddordeb cyhoeddus'

Dywedodd Douglas Bain: "Er y gallai'r cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion fod yn achos pryder, mae hefyd yn dangos bod mwy o ddiddordeb cyhoeddus mewn craffu ar waith ac ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

"Mae craffu cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn ein proses ddemocrataidd ac er gwaethaf y cynnydd hwn, nid wyf yn credu bod nifer y cwynion a ddaeth i law yn dangos unrhyw ostyngiad yn safon uchel ymddygiad gyffredinol Aelodau o'r Senedd.

"Er gwaethaf sesiynau ymwybyddiaeth, sylwadau a wnaed gan Aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol yw'r pwnc mwyaf cyffredin o bell ffordd o ran cwynion a byddwn yn eu hannog i gymryd mwy o ofal pan fyddant ar y cyfryngau cymdeithasol."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod cost rhedeg swyddfa'r Comisiynydd - sy'n "dibynnu'n bennaf ar nifer a chymhlethdod y cwynion a ddaw i law, a'r ymchwiliadau a gynhelir" - wedi codi 12% yn 2023-24, ond bod y costau'n dal dros 16% yn llai na'r gwariant yn 2020-21.

Pynciau cysylltiedig