Y Cymro Brennan Johnson yn symud i Spurs am 拢45m

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae ymosodwr Cymru, Brennan Johnson wedi symud o Nottingham Forest i Tottenham Hotspur am ffi o dros 拢45m.

Cyn i ffenestr drosglwyddo Uwch Gynghrair Lloegr gau nos Wener, cafwyd cadarnhad fod y chwaraewr 22 oed wedi ymuno 芒'r clwb o Lundain.

Roedd Spurs wedi bod yn awyddus i gryfhau yn y llinell flaen yn dilyn ymadawiad capten Lloegr, Harry Kane i Bayern Munich dros yr haf.

Johnson bellach felly yw'r ail b锚l-droediwr drytaf erioed o Gymru, wedi i Gareth Bale symud o Spurs i Real Madrid am 拢85m yn 2013.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Johnson wedi ennill 20 cap a sgorio dwy g么l i Gymru

Yn enedigol o Nottingham - ac yn fab i'r cyn b锚l-droediwr David Johnson - roedd yn rhan ganolog o d卯m Forest a sicrhaodd ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair yn 2022.

Fe sgoriodd 10 o goliau'r tymor diwethaf, gan helpu'r clwb i aros yn y gynghrair, ac mae wedi sgorio 29 o weithiau mewn 108 g锚m hyd yma yn ei yrfa broffesiynol.

Ar 么l ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn 2020 mae bellach wedi chwarae 20 o weithiau dros ei wlad, gan sgorio ei goliau rhyngwladol cyntaf yn erbyn Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Bydd Johnson yn ymuno 芒'r Cymro Ben Davies yng ngharfan Spurs - a hynny wedi i'r clwb o Lundain adael i Joe Rodon fynd ar fenthyg i Leeds am y tymor.

Un arall o'r Cymry sydd wedi symud clybiau dros yr haf eleni yw Ethan Ampadu, wnaeth hefyd symud Leeds am 拢7m o Chelsea.

Fe wnaeth capten y t卯m cenedlaethol, Aaron Ramsey, hefyd ailymuno 芒 Chaerdydd, y clwb ble ddechreuodd ei yrfa.