Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfres yr Hydref: Cymru yn colli yn erbyn Fiji
Mae Cymru wedi dechrau Cyfres yr Hydref gyda cholled o 19-24 yn erbyn Fiji yn Stadiwm Principality.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi colli deg g锚m brawf o'r bron am yr eildro erioed.
Er i Fiji brofi problemau disgyblaeth cyn yr egwyl, roedd eu cryfder a'u dawn ymosodol yn ormod i amddiffyn Cymru yn yr ail hanner wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.
Fe fydd g锚m nesaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia ar ddydd Sul,17 Tachwedd.
Fe ddechreuodd Cymru yn bwrpasol yn ennill cic gosb o fewn munud wedi sgarmes symudol lwyddiannus.
Roedd y lein yn effeithiol a'r crysau coch yn ennill tir yn gyson drwy'r blaenwyr.
Ond drwy'r olwyr y daeth y cais cyntaf wedi saith munud wrth i Blair Murray wibio i'r gornel yn dilyn gwaith da gan Mason Grady a Ben Thomas.
Fe sgoriodd Murray gyda dim ond ei ail gyffyrddiad mewn rygbi rhyngwladol.
Roedd Cymru yn credu eu bod wedi sgorio ail gais pum munud yn ddiweddarach wrth i Cameron Winnett groesi, ond nid oedd y cais yn ddilys oherwydd chwarae peryglus yn gynharach yn y symudiad.
Cafodd blaen asgellwr Cymru, Tommy Refell gerdyn melyn am dacl uchel.
Fe wnaeth Cymru ymestyn eu mantais i 14-3 gyda chais gosb wedi 19 o funudau.
Yn ogystal 芒'r pwyntiau, cafodd wythwr Fiji, Elia Canakaivata ei anfon i'r gell gosb.
Cwta dau funud yn ddiweddarach ac roedd yr ymwelwyr lawr i 13 dyn ar 么l i Semi Radrada daro pen Winnett gyda'i ysgwydd.
Ar 么l edrych eto ar y digwyddiad, cafodd y cerdyn melyn i Radrada ei uwchraddio i gerdyn coch - oedd yn golygu y byddai'n rhaid i Fiji aros 20 munud cyn gallu dod ag eilydd ymlaen i'r cae yn ei le.
Ond er eu bod lawr i 13 dyn fe sgoriodd Fiji gais ardderchog.
Llwyddodd Caleb Muntz i ochrgamu heibio Taine Plumtree a Gareth Thomas cyn gwibio heibio Winnett a Murray cyn croesi'r llinell.
Daeth yr ail gais i Fiji wrth i Waisea Nayacelevu fanteisio ar wagle yn amddiffyn Cymru cyn ailgylchu'r b锚l yn sydyn i ddwylo Josua Tuisova.
Fe darodd Cymru'n 么l drwy Ellis Bevan - eiliadau wedi iddo ddod i'r cae fel eilydd - a hynny yn dilyn gwaith da gan Ben Thomas a Winnett.
Roedd Fiji yn llwyddo i greu sawl cyfle wedi'r egwyl gyda'r olwyr yn creu bob math o broblemau i amddiffyn ifanc Cymru.
Roedd yr ymwelwyr yn credu eu bod wedi sgorio trydydd cais i ennill y g锚m gyda phum munud yn weddill wrth i Vuate Karawalevu groesi yn y gornel, ond roedd y bas i'r asgellwr wedi mynd ymlaen.
Er hynny, roedd gan Fiji gic gosb ac fe ergydiodd Muntz yn gywir i'w gwneud hi'n 19-24.
Fe wnaeth y t卯m cartref geisio rhoi'r ymwelwyr dan bwysau yn yr eiliadau olaf, ond doedd Cymru ddim yn ddigon cywir i allu dod o hyd i fylchau ymhlith y crysau gwynion.
Mae'r golled yn golygu fod Cymru wedi colli deg g锚m brawf o'r bron am yr eildro erioed.