Badenoch 'yn agored' i ystyried un r么l arweiniol i鈥檙 Ceidwadwyr Cymreig

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Samuel Kurtz fod yr arweinydd newydd 鈥渆isiau i ni fel aelodau鈥檙 Senedd gael rhan wrth siapio鈥檙 blaid wrth symud ymlaen"
  • Awdur, Catrin Haf Jones
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae Cadeirydd Gr诺p y Ceidwadwyr yn y Senedd yn dweud bod Kemi Badenoch yn 鈥渁gored iawn鈥 i alwadau i greu un r么l benodol fel Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Ysgrifennodd Samuel Kurtz at yr holl ymgeiswyr i olynu Rishi Sunak yn gofyn iddyn nhw wneud arweinydd gr诺p y Senedd yn arweinydd swyddogol y blaid yng Nghymru.

Kemi Badenoch enillodd y ras i arwain y Ceidwadwyr yn dilyn pleidlais o aelodau llawr gwlad y blaid, gan guro Robert Jenrick, sef dewis Arweinydd presennol y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Dywedodd Samuel Kurtz fod yr arweinydd newydd 鈥渆isiau i ni fel aelodau鈥檙 Senedd gael rhan wrth siapio鈥檙 blaid wrth symud ymlaen.鈥

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd Andrew RT Davies wedi rhoi ei gefnogaeth gyhoeddus ef i wrthwynebydd Ms Badenoch yn y ras i arwain y blaid, Robert Jenrick

Ar hyn o bryd mae arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi ei rhannu rhwng Arweinydd y Gr诺p yn y Senedd, Andrew RT Davies, Cadeirydd y Blaid yng Nghymru, Tomos Dafydd Davies, ac Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, yr Arglwydd Byron Davies.

Ond mae 'na alwadau ers tro gan Aelodau Ceidwadol Senedd Cymru i'r arweinydd yn y Senedd fod yn arweinydd swyddogol ar y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Mr Kurtz ei fod yn credu bod arweinydd newydd y Ceidwadwyr ym Mhrydain yn gwrando ar y galwadau hynny.

鈥淢ae Kemi eisiau gwrando arnom ni fel Aelodau o鈥檙 Senedd, fel Cynghorwyr lleol, fel yr aelodaeth, am beth fydd yn gwella鈥檙 sefyllfa i ni fel plaid yng Nghymru.

"Ac mae鈥檙 ffaith fod ein harweinydd ni, Andrew RT Davies, dim ond yn arweinydd y Gr诺p ym Mae Caerdydd a ddim yn Arweinydd y blaid yng Nghymru 鈥 roedd hi鈥檔 agored ar hwnnw ac mae hi eisiau cydweithio.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Kemi Badenoch sydd wedi ei hethol yn arweinydd nesa'r Blaid Geidwadol

Roedd Andrew RT Davies wedi rhoi ei gefnogaeth gyhoeddus ef i wrthwynebydd Ms Badenoch yn y ras i arwain y blaid, Robert Jenrick.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Telegraph, dywedodd fod gan Mr Jenrick 鈥済ynllun clir ar sut i adfer ffydd yng ngwleidyddiaeth Prydain鈥 a bod 鈥測 cyhoedd wedi cael digon o wleidyddion di-bolisi.鈥

Roedd Mr Jenrick wedi cyhuddo Kemi Badenoch o fod yn 鈥渁mharchus鈥 at aelodau Ceidwadol yn ystod yr ornest arweinyddiaeth, am fethu 芒 chynnig polis茂au clir.

Ond wrth ymateb i鈥檙 cyhoeddiad bod Kemi Badenoch wedi ennill y ras i olynu Rishi Sunak, dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn llongyfarch Kemi Badenoch ar ddod yn arweinydd ac yn galw ar ei blaid i 鈥渄dod at ei gilydd鈥 tu 么l iddi.

鈥淎r ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn longyfarch Kemi ar ddod yn arweinydd ein plaid a dymuno鈥檔 dda iddi wrth arwain Gwrthblaid Ei Mawrhydi.

"Cyflwynodd y ddau ymgeisydd weledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein gwlad a nawr bod yr ornest wedi dod i ben, mae鈥檔 bryd i ni ddod at ein gilydd a chefnogi Kemi i ddwyn y Llywodraeth Lafur ofnadwy hon i gyfrif sydd eisoes wedi achosi cymaint o niwed i Gymru yn eu cyfnod byr mewn grym.

鈥淢ae鈥檔 hanfodol ein bod yn dod 芒 rheolaeth Llafur ar ddau ben yr M4 i ben, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Kemi i wneud i hynny ddigwydd.鈥

Wrth ymateb i鈥檙 ffaith fod Andrew RT Davies wedi cefnogi gwrthwynebydd yr arweinydd newydd, dywedodd Samuel Kurtz fod hynny鈥檔 鈥渂enderfyniad i Andrew.鈥

鈥淥nd nawr fod Kemi wedi ennill fi鈥檔 gwybod bydd Andrew yn tynnu tu 么l i Kemi ac uno'r blaid yma yng Nghymru tu 么l i鈥檙 arweinydd newydd.鈥

Wrth siarad ar 么l cyhoeddi鈥檙 canlyniad fore Sadwrn, dywedodd Kemi Badenoch bod angen ymestyn allan at holl aelodau Ceidwadol ledled y Deyrnas Unedig er mwyn ail-adeiladu鈥檙 blaid.

鈥淢ae鈥檙 gwaith enfawr hwnnw鈥檔 dechrau nawr. A byddwn ni鈥檔 gweithio i gynnwys ein holl gydweithwyr yn hynny o San Steffan i Senedd yr Alban i Senedd Cymru, ein ffrindiau yng Ngogledd Iwerddon ynghyd 芒 chynghorwyr ac aelodau鈥檙 blaid.鈥