'Pryderon sylweddol' mewn ysbyty a ryddhaodd y cyrff anghywir

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth gwasanaeth marwdai Ysbyty'r Faenor ryddhau'r cyrff anghywir i ddau deulu yn Nhachwedd 2023

Mae gwasanaeth marwdai ysbyty a ryddhaodd y cyrff anghywir i ddau deulu yn parhau i beri "pryderon sylweddol", yn 么l aseswyr.

O ganlyniad, mae gwasanaeth achredu cenedlaethol y DU wedi atal ei gydnabyddiaeth swyddogol o weithgareddau'r marwdai yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ei fod wedi rhoi mesurau diogelwch ar waith i atal unrhyw ddigwyddiadau pellach, a'u bod yn gweithio gyda staff y marwdai i "gyflawni gwelliannau parhaus."

Cafodd dau gorff eu rhyddhau i deuluoedd anghywir gan yr ysbyty ym mis Tachwedd 2023, gan sbarduno ymchwiliad mewnol, yn ogystal ag arolygiadau gan yr Awdurdod Meinwe Dynol (HTA), a Gwasanaeth Achredu'r DU (UKAS).

Fe wnaeth aseswyr UKAS ganfod 鈥渢ystiolaeth o ddiffyg safoni鈥 yn y gweithdrefnau ar gyfer rhyddhau cleifion, diffyg diogelwch, ac anghysondeb mewn cofnodion.

Mae achrediad y gwasanaeth marwdai wedi cael ei atal yn rhannol, yn amodol ar adolygiad, oherwydd pryderon difrifol am ddiogelwch a rheoli cleifion.

'Mynd i'r afael 芒'r holl argymhellion'

Cododd UKAS bryderon hefyd am "ddiffyg mesurau diogelwch", gan gynnwys dim CCTV a dim rhestr o'r gweithwyr sydd 芒 mynediad i'r safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod y ddau ddigwyddiad "digynsail" yn y marwdai "oherwydd yr un achos".

Dywedodd fod y bwrdd iechyd wedi lansio ei ymchwiliad ei hun a chyflwyno mesurau diogelwch i atal digwyddiadau tebyg - ac mae hyd yma wedi cwblhau 17 o'r 19 o argymhellion a wnaed gan yr ymchwiliad hynny.

"Mae'n bwysig nodi nad yw UKAS yn gorff rheoleiddio, ac nad yw achrediad UKAS yn ofyniad gorfodol, ond rydym yn gofyn iddynt adolygu ein gwasanaethau yn wirfoddol i gynnal arfer da," meddai'r llefarydd.

Mae'r bwrdd iechyd bellach yn gwneud newidiadau yn y marwdai, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymchwiliadau.

"Rydym yn parhau i fynd i'r afael 芒'r holl argymhellion gan yr HTA a UKAS, ac mae t卯m yn gweithio ochr yn ochr 芒'n staff marwdai i gyflawni gwelliannau parhaus."