Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Groto ar gau gan nad oes Si么n Corn ar gael yng Nghaerdydd
Bydd un groto Si么n Corn yng Nghaerdydd ddim ar agor eleni oherwydd "prinder Santas".
Nifer bychan o bobl wnaeth wneud cais am y r么l, yn 么l yr atyniad ar Stryd y Frenhines.
Nododd neges Facebook gan y groto ym mis Medi, y byddai "t芒l gwych a bod yna gyfle i weithio mewn cwt coed cynnes".
Ond mae'n ymddangos nad oedd digon o ddiddordeb ac mae nifer o deuluoedd wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn siomedig.
Dyw'r newyddion ddim yn sioc i Mark Roberts o Gelligaer yn Sir Caerffili sydd wedi bod yn Si么n Corn proffesiynol ers y pandemig.
Mae ei ddyddiadur ef yn llawn Nadolig eleni a flwyddyn nesaf.
"Gall unrhyw un roi gwisg ymlaen - ond mae yna reswm pam fod galw mawr am Si么n Corn proffesiynol," meddai.
"Mae hi'n swydd anodd, weithiau dwi'n eistedd ar y sled, dwi'n cerdded o gwmpas yn boeth, dwi'n berwi, ac yn gyson yn derbyn diodydd oer gan fy mhartner."
Mae rheolwyr y groto wedi ymddiheuro ar Facebook, ac wedi dweud eu bod yn gobeithio ailagor y drysau y flwyddyn nesaf.