Undeb Rygbi Cymru'n cydnabod 'methiant' arweinyddiaeth

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Abi Tierney a Richard Collier-Keywood wedi ymddiheuro i'r chwaraewyr

Roedd y ffrae dros gytundebau t卯m cenedlaethol merched Cymru yn cynrychioli 鈥渕ethiant鈥 o ran llywodraethu ac arweinyddiaeth gan Undeb Rygbi Cymru.

Dyna gyfaddefiad cadeirydd yr undeb, Richard Collier-Keywood, wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon Senedd Cymru.

Dywedodd Mr Collier-Keywood hefyd ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am beidio 芒 sefydlu is-bwyllgor o fwrdd URC i ddelio 芒 rygbi merched yn gynt.

Awgrymodd pe bai is-bwyllgor yn bodoli y gellid bod wedi osgoi鈥檙 鈥渁rgyfwng鈥 ynghylch cytundebau.

Sefydlwyd y pwyllgor ym mis Medi.

'Rhywiaeth ddim yn ffactor'

Dywedodd prif weithredwr yr undeb, Abi Tierney, wrth y pwyllgor na all sicrhau na fydd y sefydliad yn destun penawdau negyddol yn y dyfodol.

Meddai: 鈥淩wy鈥檔 meddwl y byddai鈥檔 annheg i mi eistedd yma a dweud na fydd gennym ni byth mwy o benawdau eto oherwydd mae newid diwylliant yn daith, a dwi鈥檔 meddwl mai sut rydyn ni鈥檔 ymateb i鈥檙 penawdau hynny sydd mor bwysig.鈥

Gwadodd Mr Collier-Keywood fod rhywiaeth wedi bod yn ffactor.

Cadarnhaodd ei fod ef a Ms Tierney wedi ymddiheuro i'r chwaraewyr.

Wrth siarad 芒鈥檙 大象传媒 ar 么l y gwrandawiad, dywedodd Mr Collier-Keywood: 鈥淔e wnaethon ni gael rhai pethau o鈥檌 le gydag URC.

"Nid oeddem wedi sefydlu鈥檙 lefel gywir o broses, roeddem wedi drysu eu rolau fel athletwyr... ac roeddem wedi eu rhoi dan bwysau i lofnodi鈥檙 cytundebau, a teimlais nad dyna oedd y peth iawn i鈥檞 wneud.

"Felly dwi'n meddwl pan fyddwch chi'n cael pethau'n anghywir y dylech chi ymddiheuro."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe orffennodd dynion a merched Cymru yn olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Dywedodd Ms Tierney y byddai 鈥渘ewid trawsnewidiol yn cymryd amser鈥 a bod canlyniadau arolygon staff misol yn 鈥渉eriol鈥.

鈥淢ae鈥檔 rhoi syniad i ni o ble mae鈥檔 rhaid i ni dyfu,鈥 meddai.

Ychwanegodd: 鈥淢ae heriau systemig wedi bod gyda rygbi Cymru ers blynyddoedd lawer, a dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw atebion cyflym.

"Yr hyn rwy鈥檔 ceisio鈥檌 wneud yw gosod atebion cynaliadwy a fydd yn cymryd amser, ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd pobl yn amyneddgar a bod ganddynt hyder ynof fi i鈥檞 wneud.鈥

Cafodd y cytundebau proffesiynol cyntaf erioed gan d卯m y merched eu harwyddo ar ddechrau 2022, gyda Chymru yn cymryd camau mawr ar y cae, gan orffen yn drydydd ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched 2022 a 2023.

Ond i gyd-fynd 芒鈥檙 trafodaethau cytundebol, mae 2024 wedi gweld cwymp sylweddol yn eu perfformiadau, gyda Chymru yn gorffen ar waelod y bencampwriaeth.