Gwrthod deddf fyddai'n creu hawl i gartref digonol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r syniad o gael deddf fyddai'n creu hawl i gartref digonol wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan ymgyrchwyr, sy'n credu y dylai'r gyfraith ddweud bod cael cartref diogel yn hawl ddynol.

Cyhuddodd Plaid Cymru y llywodraeth hefyd o gyhoeddi dogfen bolisi 鈥渨an a siomedig鈥 ar dai, tair blynedd ar 么l iddi gael ei haddo fel rhan o gytundeb rhwng Plaid a Llafur.

Dywedodd gweinidogion: "Mae'r egwyddor bod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr."

惭补别鈥檙 , a elwir yn bapur gwyn, yn nodi polis茂au i helpu i wneud tai yn fforddiadwy a chadw to uwch bennau pobl.

Mae鈥檔 dweud mai "uchelgais Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod tai digonol ar gael i bawb yng Nghymru".

Mae saith maen prawf, a gynigir gan y Cenhedloedd Unedig, yn nodi sut olwg sydd ar gartref digonol.

Maent yn cynnwys bod yn fforddiadwy a diogelwch rhag troi allan gorfodol.

Oes angen newidiadau cyfreithiol?

Ond clywodd ymgynghoriad safbwyntiau gwahanol ynghylch a oedd angen newidiadau cyfreithiol.

Roedd cynghorau'n poeni am y cyllid sydd ei angen i ddarparu tai digonol, ac roedd ofnau y gallai landlordiaid preifat dynnu allan o'r farchnad, meddai.

Yn hytrach, mae鈥檔 cynnig strategaeth dai y byddai鈥檔 rhaid i weinidogion ei chyhoeddi yn 么l y gyfraith ar 么l yr etholiad nesaf yn 2026.

Gallai fod gan gyrff cyhoeddus hefyd ddyletswydd i 鈥渞oi sylw鈥 i鈥檙 strategaeth wrth ddarparu tai.

Gallai deddfwriaeth bellach ddigwydd yn y dyfodol 鈥渦nwaith y bydd mwy o dai digonol ar gael鈥, ychwanega.

Disgrifiad o'r llun, Jayne Bryant yw'r ysgrifennydd tai

Dywedodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant: 鈥淢ae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i鈥檞 alw鈥檔 gartref yn uchelgais allweddol gan y llywodraeth hon.鈥

Fe wnaeth Llafur addo papur gwyn 鈥渋 gynnwys cynigion am hawl i dai digonol鈥 mewn cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn 2021.

Dywedodd Plaid Cymru, wnaeth ganslo鈥檙 cytundeb yn gynharach eleni, fod y papur gwyn yn dangos 鈥渄iffyg uchelgais鈥.

鈥淢ae鈥檔 anodd credu ei bod hi wedi cymryd dwy flynedd i gynhyrchu dogfen sydd mor wan a siomedig, sydd mor brin o鈥檙 disgwyliadau gwreiddiol a osodwyd yn y cytundeb cydweithio,鈥 meddai AS Plaid Cymru Sian Gwenllian.

'Hynod siomedig'

Ychwanegodd Jeff Smith ar ran Cymdeithas yr Iaith: 鈥淩oedd cyfle trwy鈥檙 papur gwyn yma i drawsnewid y ffordd rydym yn gweld tai yng Nghymru, a mynd i鈥檙 afael o ddifrif gyda鈥檙 argyfwng tai trwy sefydlu鈥檙 hawl gyfreithiol i dai digonol.

"Mae ei fethiant i ddod yn agos at hynny鈥檔 hynod siomedig.

鈥淣id ymdrin 芒 symptomau unigol yr argyfwng tai fan hyn a fan draw fel sydd yn y Papur Gwyn yw鈥檙 ateb, ond mynd at wraidd yr argyfwng."

Mae'r papur gwyn hefyd yn diystyru rheolaethau rhent, gan ddweud y gallai arwain at ostyngiad mewn cyflenwad tai ar rent.

Ond mae cynigion i gasglu a chyhoeddi mwy o ddata ar renti, fel y gall pobl weld faint sy'n cael ei godi yn eu hardal leol.

Dywedodd gweinidogion hefyd eu bod am helpu tenantiaid i gadw anifeiliaid anwes.

Gallai landlordiaid ofyn i berchnogion anifeiliaid anwes dalu tuag at yswiriant ychwanegol, hyd at derfyn i鈥檞 osod gan Lywodraeth Cymru.