Banc Lloegr yn gostwng cyfraddau llog i 5%

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Banc Lloegr sy'n gosod cyfraddau llog
  • Awdur, Aled Huw
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi eu bod yn torri cyfraddau llog o 5.25% i 5%, y cwymp cyntaf ers Mawrth 2020.

Mae'n bosib y gallai'r gostyngiad yma arwain at brisiau morgais rhatach i rai.

5.25% oedd y gyfradd uchaf mewn 16 o flynyddoedd, a gafodd ei osod mewn ymgais i daclo'r cynnydd mewn prisiau ar draws y DU.

Y tro diwethaf i'r cyfraddau gael eu gostwng oedd yn nyddiau cynnar y pandemig er mwyn ceisio hybu'r economi.

Mae naw aelod ar bwyllgor ariannol Banc Lloegr, ac fe bleidleisiodd pump o'r aelodau hynny o blaid y gostyngiad.

Saith i ddau o blaid sefyll yn yr unfan oedd canlyniad y bleidlais n么l ym mis Mehefin.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves: "Er bod y gostyngiad yma mewn cyfraddau llog yn rhywbeth i'w groesawu, mae miliynau o deuluoedd yn dal i wynebu costau morgeisi uwch.

"Dyna pam fod y llywodraeth yma yn gwneud y penderfyniadau anodd nawr er mwyn trwsio sylfaen ein heconomi wedi blynyddoedd o dwf isel, fel bod modd ailadeiladu Prydain, er lles pob rhan o'r wlad."

Ymgynghorydd ariannol annibynnol yw Steph Jones, ac mae hi'n gyn-reolwraig banc.

Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru dywedodd: "Mae'n golygu bod cost morgeisi yn dod lawr, cost cardiau credyd, ond i bobl sy'n cynilo fel ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwetha', 'dyn nhw ddim wedi gallu gwneud fawr o'u harian a nawr mae'r naw mis diwetha' wedi bod yn gr锚t i weld eu harian yn tyfu."

Mae Banc Lloegr yn sefydliad annibynnol, a'u tasg - a osodwyd gan y llywodraeth - yw cadw chwyddiant o dan 2%.

Disgrifiad o'r llun, Mae gostyngiad i gyfraddau llog yn newyddion da i bobl sy'n benthyg arian, medd Steph Jones

Ond wrth i chwyddiant godi'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf am sawl rheswm, Covid a rhyfel Wcr谩in yn eu plith, fe fu'n rhaid i'r banc godi'r gyfradd sail.

Yn Hydref 2022 fe ddringodd chwyddiant i dros 11% - y lefel uchaf ers 1981.

Dros y 12 mis diwethaf mae chwyddiant wedi gostwng tua 4%, gan gyrraedd 2% ym mis Mai.

Ond mae chwyddiant yn y sector gwasanaethau a lletygarwch - diwydiannau fel adwerthu ac adloniant - mae chwyddiant wedi para'n stwbwrn o uchel ar 5%.

'Effaith Taylor Swift'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth cyngerdd Taylor Swift ddenu degau o filoedd o bobl i Gaerdydd ym mis Mehefin

Fis Mehefin fe gynhaliodd y seren o America, Taylor Swift, gyngerdd yng Nghaerdydd - un o 10 o leoliadau ar ei thaith Eras ar draws y Deyrnas Unedig.

Roedd 70,000 o bobl tu fewn i Stadiwm y Principality a miloedd yn rhagor tu fas - gyda bwytai, gwestai a systemau trafnidiaeth yn llawn wrth i bobl wario.

Ar draws 10 cyngerdd, mae hynny'n agos at filiwn o bobl.

Y math yna o alw a gwario sydd wedi cyfrannu, medd economegwyr, at chwyddiant y sector gwasanaethau yn para'n uchel.

Mae rhai economegwyr o'r farn y gallai chwyddiant godi eto'n ddiweddarach eleni yn sgil codiadau cyflog yn y sector gyhoeddus sydd wedi cael s锚l bendith y Canghellor newydd Rachel Reeves.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cyhoeddodd Rachel Reeves godiadau cyflog i weithwyr sector gyhoeddus ddydd Llun

Mae Steph Jones yn cydnabod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i gyllidebau pawb.

"Nid dim ond benthyg arian, ond costau byw, popeth yn cynyddu, biliau t欧, bwyd, pethau'n gyffredinol," meddai.

"Mae'r pedair blynedd ddiwetha' wedi bod yn anodd."