Dim cerflun o ferch goll i gofio'r rhai aeth o Aberaeron i Ohio

Ffynhonnell y llun, Sebastien Boyesen Design | Cymru-Ohio 2021

Disgrifiad o'r llun, Bwriad Cymdeithas Cymru 鈥 Ohio 2018 oedd codi cerflun i gofio am Mary y ferch goll - sef yr unig berson na wnaeth gyrraedd Ohio yn ddiogel

Mae cais dadleuol i godi cerflun yn Aberaeron i nodi bod 36 o bobl wedi ymfudo o'r dre i Ohio yn 1818 wedi'i dynnu'n 么l, yn 么l gohebydd Gwasanaeth Adrodd Democratiaeth Leol.

Bwriad Cymdeithas Cymru 鈥 Ohio 2018 oedd codi cerflun i gofio am Mary, y ferch goll - sef yr unig berson na wnaeth gyrraedd Ohio yn ddiogel.

Fe fyddai'r cerflun 'Y Ferch Goll' wedi'i wneud o stribedi o ddur ond roedd yna bryderon y byddai'n amharu ar yr olygfa eiconig o'r harbwr allan i'r m么r ac yn cuddio'r machlud.

Ffynhonnell y llun, Roger Kidd | Geograph

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna bryderon ymhlith rhai am gost ac effaith weledol y cynllun

Cafodd y gwaith ei ddylunio gan gwmni Sebastien Boyesen Design Consultancy a'r bwriad, petai Cyngor Ceredigion yn caniatau, fydd ei osod ar bier gogleddol harbwr Aberaeron.

Yn 1818 fe berswadiodd John Jones Tirbach, tafarnwr 鈥淭he Ship鈥 ym mhentref Pennant, chwe theulu estynedig o Gilcennin i adael Ceredigion i ymuno ag ymsefydlwyr o Gymru yng nghymuned Paddy鈥檚 Run - y gymuned Gymreig gyntaf yng ngorllewin Ohio.

Wrth wneud cais i gael y cerflun cyfeiriodd Cymdeithas Cymru 鈥 Ohio 2018 at dlodi a chynaeafau gwael 1815 a 1816 a bod Ohio yn cynnig bywyd newydd.

Ond roedd yna bryderon ymhlith rhai am y gost a'r effaith weledol.

Dywedodd ymddiriedolwyr Cymdeithas Aberaeron eu bod yn bendant y byddai'n "cuddio golygfa eiconig yr harbwr allan i鈥檙 m么r ac yn arbennig ein machlud hyfryd鈥.

Roedd yna bryderon hefyd am raddfa'r cerflun ac y gallai edrych yn llai deniadol o rai onglau.

Ar y dechrau nodwyd mai'r bwriad oedd cael cerflun o g锚s teithiol o'r 19eg ganrif.

"Byddai rhywbeth o鈥檙 natur hwnnw yn gofeb llawer mwy priodol ar gyfer ein tref harbwr hanesyddol,鈥 meddai llefarydd.