Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gobaith cynnig gwyliau i 1,000 o aelodau ifanc yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn gobeithio treblu nifer y gwyliau yn eu gwersylloedd yn 2025 ar gyfer plant a phobl ifanc "sy'n byw mewn amgylchiadau heriol".
Bu'n bosib i'r mudiad ieuenctid gynnig llefydd yn ei wersylloedd haf eleni ar gyfer dros 300 o aelodau ifanc sydd o deuluoedd incwm isel, yn ofalwyr ifanc neu'n blant maeth.
Ond gydag ystadegau'n awgrymu bod 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae'r Urdd yn gobeithio "sicrhau gwyliau ar gyfer mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Cymru" gan osod targed o 1,000.
Mae hynny, medd yr Urdd, yn sgil derbyn y nifer "fwyaf erioed o geisiadau am wyliau" drwy nawdd y Gronfa Cyfle i Bawb eleni, sy'n derbyn cyfraniadau gan unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol.
拢220 yw cost noddi un plentyn neu berson ifanc i dreulio cyfnod yn un o wersylloedd yr Urdd, yng Nglan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Gaerdydd.
Wrth lansio ap锚l y gronfa ar gyfer 2025 dywedodd Si芒n Lewis, prif weithredwr yr Urdd fod "pob plentyn yn haeddu'r cyfle i fwynhau gwyliau, beth bynnag yw eu hamgylchiadau personol".
Un a elwodd o'r cynllun eleni oedd merch 13 oed o'r enw Evie.
Dywedodd ei mam, Heather: "Fasa ni fel teulu byth yn medru fforddio cynnig y math yma o wyliau i Evie.
"Byddai hi wedi gorfod colli allan ar bob math o brofiadau dros yr haf heb y gronfa, felly mi ydan ni mor ddiolchgar o'r gefnogaeth ychwanegol yma.
"Roedd Evie wrth ei bodd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Glan-llyn, yn enwedig cael mynd allan ar y d诺r.
"Mi wnaeth hi ffrindiau newydd, ac roedd pawb mor ofalus ohoni."
Mae'r cyfle i fynd i rywle gwahanol na fyddai'n bosib i'w teuluoedd eu trefnu fel arall "yn brofiad amhrisiadwy" i'r plant a'r bobl ifanc, medd Dion Davies - uwch arweinydd bugeiliol yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.
Dywedodd bod dod i ddeall bod "dipyn o blant sydd erioed wedi bod lawr yn y Bae, erioed wedi gweld y Senedd, erioed wedi gweld Canolfan y Mileniwm" er eu bod yn byw yn y brifddinas, yn "rhoi sioc i chi".
Mae gwyliau'r Urdd, meddai, yn "gyfle iddyn nhw greu cysylltiadau newydd gyda plant er'ill o gwmpas Cymru a hefyd jyst yn ca'l y profiad o weld Cymru".
Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis ar Dros Frecwast: "Mae gyda ni gyfrifoldeb fel mudiad ieuenctid i estyn allan i blant sy'n cael eu tangynrychioli ac mae plant sy'n byw mewn tlodi yn un o'r carfanau hynny."
Mae yna gyfrifoldeb hefyd, meddai, "yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni ar hyn o bryd i sicrhau bod plant mewn tlodi yn gallu ca'l yr un profiadau 芒 phlant arferol sy'n cael gwyliau haf a phethe i edrych ymlaen amdano".
Ychwanegodd eu bod "wedi gosod her sylweddol" i'w hunain eleni trwy anelu at gynnig gwyliau ar gyfer cymaint yn fwy o blant a phobl ifanc.
Ond dywedodd bod rhai pobl wedi gadael arian i'r Urdd mewn ewyllysiau y llynedd a bod hynny wedi eu helpu i gyrraedd targed cronfa y llynedd.