Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Betsi Cadwaladr methu 芒 recriwtio prif weithredwr
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi methu 芒 recriwtio prif weithredwr newydd, er gwaethaf 鈥渃hwilio'n ddwys鈥.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ydy鈥檙 corff mwyaf yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac mae wedi cael pedwar prif weithredwr yn y pedair blynedd ddiwethaf.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru y bwrdd iechyd yn 么l o dan fesurau arbennig ym mis Chwefror oherwydd pryderon am ei arweinyddiaeth a methiant i ddelio 芒 phroblemau diogelwch cleifion.
Mae rheolwyr yn dweud nad yw鈥檙 gwaith o chwilio am brif weithredwr newydd wedi llwyddo hyd yma, er gwaethaf gobeithion o lenwi'r swydd yn gyflym.
Yn 么l y bwrdd iechyd, bydd prif weithredwr dros dro yn aros yn ei swydd tra bo鈥檙 chwilio鈥檔 parhau am ymgeisydd addas.
Fe wnaeth y prif weithredwr blaenorol, Jo Whitehead, ymddeol ym mis Medi 2022.
Cafodd pryderon eu codi fis Chwefror 2023 am y ffordd yr oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei redeg.
Dywedodd adroddiad gan Archwilio Cymru fod tystiolaeth o 鈥済amweithrediad a charfannau鈥 ac 鈥渘ad yw鈥檙 t卯m cyfan yn unedig o amgylch y prif weithredwr dros dro [ar y pryd].
鈥淢ae holltau eglur a dwfn o fewn y t卯m gweithredol sy鈥檔 atal y t卯m hwnnw rhag gweithio鈥檔 effeithiol.鈥
Mewn ymateb, gofynnodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan i'r aelodau anweithredol, annibynnol ar y bwrdd iechyd ymddiswyddo, a rhoi'r sefydliad dan fesurau arbennig.
Dywedodd ar y pryd y byddai penodi prif weithredwr newydd yn rhan allweddol o wella perfformiad y GIG yng ngogledd Cymru.
鈥淲rth galon y gwaith i ddatblygu ac adeiladu sefydliad cynaliadwy, sy鈥檔 gallu darparu鈥檙 gwasanaethau GIG y mae pobl gogledd Cymru yn eu haeddu, fydd penodi prif weithredwr parhaol newydd,鈥 meddai.
鈥淏ydd y cadeirydd newydd yn arwain y gwaith o recriwtio unigolyn sydd 芒鈥檙 weledigaeth, yr arweiniad a鈥檙 egni angenrheidiol i ailadeiladu hyder y gweithlu a鈥檙 cyhoedd.鈥
Cafodd hysbysebion ar gyfer swydd y prif weithredwr eu cyhoeddi ychydig wythnosau鈥檔 ddiweddarach, gydag ystod cyflog o 拢208,000 i 拢225,000 y flwyddyn, ond mae鈥檙 bwrdd iechyd bellach wedi cadarnhau nad oes unrhyw un wedi鈥檌 benodi i鈥檙 swydd.
Dywedodd Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:聽鈥淣i wnaeth ein hymgyrch i recriwtio prif weithredwr newydd arwain at benodiad a bydd chwiliad dwys pellach yn ailddechrau yn ystod y misoedd nesaf.
鈥淢ae hon yn swydd hollbwysig ac mae鈥檔 hanfodol ein bod yn penodi鈥檙 person iawn i adeiladu鈥檙 diwylliant cadarnhaol a fydd yn helpu i arwain y sefydliad i ddyfodol mwy disglair."
Penodwyd y prif weithredwr dros dro presennol, Carol Shillabeer, ym mis Mai 2023, ac mae ar secondiad o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Ychwanegodd Dyfed Edwards: 鈥淵n y cyfamser, rwy鈥檔 falch y bydd Carol Shillabeer yn parhau yn r么l y prif weithredwr dros dro.
鈥淢ae gan Carol brofiad helaeth mewn swyddi prif weithredwr ac arweinyddiaeth glinigol yn y gwasanaeth iechyd ac mae鈥檔 gweithio鈥檔 galed gyda chydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd i sicrhau ein bod yn sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd, tra鈥檔 gwneud cynnydd wrth fynd i鈥檙 afael 芒 rhai o鈥檔 heriau allweddol.鈥
'Siomedig iawn'
Mae "siomedig iawn bod neb eto isio trio am y swydd," medd Gordon Hughes - cadeirydd pwyllgor Sir Ddinbych hen Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac aelod o'r corff cenedlaethol sydd bellach yn cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, Llais.
Gan gydnabod ar raglen Dros Frecwast bod "enw drwg" y bwrdd yn y blynyddoedd diwethaf yn ffactor, dywedodd bod y "rhan fwya' o'r cleifion yn meddwl bod y triniaeth maen nhw'n ca'l yn dda iawn".
Ond mae'n dadlau bod angen "mwy o adnoddau - mwy o ddoctoriaid, mwy o nyrsys, mwy o gefnogaeth" gan Lywodraeth Cymru i'r bwrdd i wella'r sefyllfa.
Awgrymodd hefyd bod angen i'r bwrdd ddod allan o fesurau arbennig cyn ystyried camau mwy radical y mae rhai wedi eu hawgrymu, fel cael dau neu dri bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd, a fyddai'n "cymryd amser i'w wneud".
Yn rhan o ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae etholaeth Gorllewin Clwyd, sy鈥檔 cael ei chynrychioli yn Senedd Cymru gan yr aelod Ceidwadol, Darren Millar.
Dywedodd: 鈥淥 ystyried yr enw sydd gan y bwrdd iechyd, nid yw鈥檔 syndod bod recriwtio prif weithredwr newydd yn profi i fod yn her.
鈥淣id yn unig y bydd gan unrhyw un sy鈥檔 cymryd yr awenau dasg sylweddol o drawsnewid perfformiad y GIG yng ngogledd Cymru, ond byddant hefyd yn gorfod gweithio gyda th卯m gweithredol sydd wedi camweithredu ac a ddylai fod wedi eu diswyddo - y rhan fwyaf ohonynt, amser maith yn 么l.
鈥淵 ffordd orau o ddenu prif weithredwr newydd yw cael gwared 芒鈥檙 t卯m gweithredol presennol fel y gall prif weithredwr newydd benodi t卯m sydd 芒鈥檙 hygrededd a鈥檙 diwylliant y dylai pobl ei ddisgwyl gan uwch reolwyr sy鈥檔 gweithio yn ein GIG."