Cadarnhau lleoliad maes Eisteddfod Wrecsam 2025

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd
  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Daeth cadarnhad mai yn ardal Is-y-coed y bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal yn 2025.

Bydd y safle tir amaethyddol ger ystad ddiwydiannol y ddinas yn gartref i holl brif ddigwyddiadau鈥檙 brifwyl fis Awst nesaf.

Roedd rhai wedi mynegi rhwystredigaeth nad oedd union leoliad yr 诺yl wedi ei gyhoeddi yn gynharach.

Mae鈥檙 trefnwyr yn dweud y bydd y safle鈥檔 faes braf ac yn gyfleus i deithwyr o bob cyfeiriad.

Mae'r lleoliad gwledig rhyw bum milltir o ganol y ddinas ar ffordd y B5130 i鈥檙 dwyrain o鈥檙 ystad ddiwydiannol.

Bydd y Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B i gyd ar y caeau rheiny.

Dywedodd Llinos Roberts, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol bod 'na lawer o drafodaethau wedi bod wrth ganfod lleoliad addas.

"Mae 'na nifer o drefniadau oedd angen cael eu gwneud, siarad efo'r ffermwr yn lleol yn fan hyn," meddai.

"Mae angen 150 o aceri o dir. Oedden ni isio tir ar gyfer y Maes, y maes carafanau, Maes B - bob dim efo鈥檌 gilydd mewn gwirionedd y tro yma.

"Ac felly mae o wedi cymryd dipyn o amser. Ond yn amlwg mae 'na naw mis a hanner i fynd felly digon o amser i drefnu a digon amser i baratoi."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Llinos Roberts mae lleoliad y safle yn Is-y-coed yn cynnig cyfle da i鈥檙 Brifwyl

Yn gartref i tua 300 o gwmn茂au, mae rhyw 10,000 o bobl yn gweithio ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, sydd ymhlith y mwyaf yn Ewrop yn 么l y cyngor sir.

Yn 么l Llinos Roberts, mae lleoliad y safle yn Is-y-coed yn cynnig cyfle da i鈥檙 Brifwyl.

"Mae 'na botensial anferthol. Mae 'na nifer o gwmn茂au mawr ar y stad ddiwydiannol yma ac mae鈥檙 'Steddfod yn mynd i fod ar stepen eu drws nhw.

"'Dan ni wedi dechrau trafod efo rhai ohonyn nhw鈥檔 barod ac yn amlwg maen nhw鈥檔 gefnogol ac yn arbennig o falch."

Dywedodd Ms Roberts mai un o鈥檙 heriau fydd sicrhau bod y digwyddiad yn 2025 "mor wyrdd" ag Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.

Bydd trafodaethau鈥檔 digwydd gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i sicrhau trafnidiaeth addas, meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r lleoliad rhyw bum milltir o ganol y ddinas ar ffordd y B5130

Un o鈥檙 partneriaid hynny fydd Cyngor Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, pencampwr y Gymraeg ar yr awdurdod lleol, y bydd trafodaethau trafnidiaeth yn dechau yn yr wythnosau nesaf.

"Dwi'n edrych ymlaen i groesawu'r byd i Wrecsam eto," meddai.

"Mae'r Eisteddfod yn bwysig iawn i'r ddinas, i'r economi ac i鈥檙 cais Dinas Diwylliant 2029 achos bydd y panel beirniadu yn ymweld 芒'r Eisteddfod.

"Dwi鈥檔 gobeithio fydd yr Eisteddfod yn llwyddiannus. Mae'n bwysig i'r iaith Gymraeg, mae鈥檔 bwysig i bobl lleol fwynhau'r experience."

Daeth cyhoeddi lleoliad y safle wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol hysbysebu ar gyfer tair swydd newydd, yn cynnwys Cyfarwyddwr Technegol.