Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Llawer o wersi wedi'u dysgu' ers trywanu Dyffryn Aman
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Fe fydd uwchgynhadledd gydag arweinwyr ysgolion yn ddiweddarach eleni, yn 么l Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, ar 么l i ddwy athrawes a disgybl gael eu trywanu mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin fis diwethaf.
Wrth annerch Panel Trosedd a Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd Dafydd Llywelyn bod yna "lawer iawn o wersi" wedi eu dysgu o'r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ar sut y gwnaeth yr ysgol a'r gwasanaethau brys ymateb.
Mae merch 13 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio ac o gael gwrthrych 芒 llafn yn ei meddiant.
Dywedodd Mr Llywelyn y bydd yn cwrdd 芒 phrifathrawon ar ddechrau mis Mehefin, gyda'r bwriad o gynnal uwchgynhadledd yn ddiweddarach eleni gydag arweinwyr ysgolion.
Mae'n bwriadu cydweithio gydag ysgolion i sicrhau presenoldeb yr heddlu, pan mae hynny'n briodol.
Dywed bod angen sicrhau cydbwysedd er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw'n droseddwyr.
Fe ddywedodd y byddai Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gynnal rhaglen mewn ysgolion yn y dyfodol.