Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Colled drom i'r Seintiau yng Nghynghrair y Pencampwyr
Fe gollodd Y Seintiau Newydd o 5-0 yn eu cymal cyntaf yn erbyn pencampwyr Hwngari, Ferencv谩ros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Roedd wynebu t卯m o safon Ferencv谩ros - y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes p锚l-droed Hwngari - yn Budapest wastad am fod yn her enfawr i'r Seintiau.
Fe aeth y t卯m cartref ar y blaen wedi bron i chwarter awr wrth i beniad Adama Traore o ochr dde'r cwrt cosbi hedfan i gornel bella'r rhwyd.
Daeth ail g么l Ferencv谩ros bum munud yn ddiweddarach, gyda Traore yn crymanu'r b锚l heibio Connor Roberts yn dilyn gwaith da gan Alexandar Pesic.
Roedd hi'n dair wedi 24 o funudau wrth i Kristoffer Zachariassen daro croesiad Marquinhos i gornel isa'r rhwyd.
Fe dyfodd t卯m Craig Harrison i mewn i'r g锚m gan greu ambell i hanner cyfle cyn yr egwyl, cyn i ergyd Jordan Williams o du allan i'r cwrt cosbi daro'r trawst.
Mae carfan Ferencv谩ros yn cynnwys sawl chwaraewr rhyngwladol - gyda dau aelod o'u carfan nos Fawrth yn rhan o garfan Hwngari yn Euro 2024.
10 munud wedi'r egwyl fe sgoriodd Traore ei drydedd g么l - peniad arall o ganol y cwrt cosbi o groesiad Cristian Ramirez.
Daeth pumed g么l Ferencv谩ros o'r smotyn wedi 61 o funudau.
Cafodd Zachariassen ei dynnu lawr yn y cwrt cosbi gan Jordan Williams, ac fe ergydiodd Marquinhos yn gywir o 12 llath.
Gyda 10 munud yn weddill fe wnaeth yr eilydd Declan McManus fethu cyfle euraidd i gwtogi mantais y t卯m cartref, ond fe ergydiodd yn syth at y golwr.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth 30 Gorffennaf.
Fe fydd yr enillydd dros ddau gymal yn wynebu un ai UE Santa Coloma o Andorra neu FC Midtjylland yn y drydedd rownd rhagbrofol.