Gareth Anscombe i symud i Japan ar 么l Cwpan y Byd

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Fe ymunodd Gareth Anscombe 芒 Chaerdydd yn 2014, cyn symud i'r Gweilch yn 2019

Y maswr Gareth Anscombe yw'r chwaraewr diweddaraf i gyhoeddi y bydd yn gadael Cymru ar 么l Cwpan y Byd.

Bydd Anscombe yn arwyddo i glwb Tokyo Suntory Sungoliath yn Japan, wedi iddo adael y Gweilch ar ddiwedd tymor 2022-23.

Daw ei gyhoeddiad wedi i'r cefnwr Liam Williams gadarnhau fis diwethaf y bydd yntau'n gadael am Japan ar 么l Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn yr hydref.

Mae Anscombe yn rhan o garfan hyfforddi Cymru ar gyfer y gystadleuaeth, ac mae'n gobeithio cynrychioli Cymru mewn Cwpan y Byd am y trydydd tro.

Ond oherwydd amserlen tymor rygbi Japan, mae'n annhebygol o fod ar gael ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024.