大象传媒

3 llun: Lluniau pwysicaf Heledd Bianchi

Heledd BianchiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Y gantores a鈥檙 bardd Heledd Bianchi sy鈥檔 rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Mae Heledd wedi rhyddhau albym ddwyieithog, Chwilben, ynghyd 芒 chasgliad o gerddi, Galar/Grief, ar Spotify.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teulu Heledd wedi ymgynull am lun

Dyma lun o鈥檓 teulu o ddeg gan gynnwys Poppi, y ci yn sefyll ar safle Glofa Fernill yn y Rhondda, nid nepell o鈥檔 cartref yn Nhynewydd adeg y pandemig.

Roedd e鈥檔 braf cael darganfod olion hanesyddol yn ein ardal lleol ac yn brafiach fyth rhannu ein darganfyddiadau o鈥檙 19eg a鈥檙 20fed ganrif gyda鈥檔 cyd cymdogion wrth droedio鈥檙 mynyddoedd.

Mae hanes safleoedd fel hyn mor bwysig i鈥檞 cofio am na byddai ein pentrefi a鈥檔 tirwedd yn edrych fel maen nhw heddiw hebddynt.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heledd a'i chaseg, Candi

Dyma lun o fi a鈥檓 caseg, Candi, n么l yn haf, 2022 pan roedd bywyd yn hwylus.

'Mond pedair oed oedd hi yn y llun hwn ac mor annwyl hefyd. Rhoddais gartref a chariad iddi am flwyddyn tra bod hi鈥檔 gwella o anaf a gafodd gan gic gan un o geffylau ei chyn berchennog.

Cadwais i hi draw ym Mhont-y-clun am gyfnod nes bod y teithio i ymweld 芒 hi wedi mynd yn ormod, yn enwedig gyda teulu mawr. Fy mreuddwyd i oedd i鈥檞 chadw hi ger 'y nghartref yn Nhynewdd, Treherbert, ond yn anffodus nid oedd tir yma ar gael ar ei chyfer ac felly bu rhaid i mi ffeindio cartref newydd iddi. Mae hi wedi ymgarefu yn ei chartref newydd ac mae鈥檌 pherchennog newydd yn dotio arni!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tony Bianchi, tad Heledd, ar gopa'r Dolomites

Dyma lun o鈥檓 tad ar gopa鈥檙 Dolomites. Roedd e鈥檔 ddringwr brwd. Daw鈥檙 llun yma ag atgofion melys i mi o鈥檓 mhlentyndod yn dringo mynyddoedd o bob lliw a llun dros Gymru gyfan, Ardal y Llynoedd a鈥檙 Alpau gyda Mam, Dad a鈥檓 chwaer.

Yn cofio Mam yn straffaglu gyda鈥檓 chwaer a finne lawr Tryfan pan oeddem mond yn bedair a phum mlwydd oed tra saethai Dad ymlaen yn uchelgeisiol gyda鈥檌 fap. 鈥淢ond hanner awr arall i fynd,鈥 gwaeddai yn y pellter. Ond bydda鈥檌 hanner awr yn aml yn troi yn ddwy a mwy; Mam druan! Pan o'n i鈥檔 dipyn yn h欧n y bydden yn rasio fy nhad i鈥檙 copa.

Bu farw fy nhad ar yr 2il o Orffennaf, 2017 yn 65 oed. Mae e鈥檔 parhau i fod yn golled enfawr yn ein bywydau ni gyd ond yn dal i鈥檔 ysbrydoli. Cyfansoddais gasgliad o gerddi dwyieithog yn fy ngalar. C芒f fodlonrwydd a rhyddhad mawr o fynegi trwy 鈥榮gwennu, yn enwedig trwy g芒n neu gerdd. Penderfynais rannu鈥檙 gyfrol dan y teitl Galar, Grief ar Spotify llynedd.

Straeon perthnasol

Pynciau cysylltiedig