Busnesau bach yn 'bryderus' cyn cyllideb y Canghellor

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai o fusnesau Porthaethwy yn bryderus cyn i'r Canghellor gyhoeddi ei chyllideb ddydd Mercher
  • Awdur, Carwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae rhai busnesau bach ar Ynys M么n wedi rhannu eu pryder cyn i'r Canghellor gyhoeddi ei chyllideb ddydd Mercher.

Mae Rachel Reeves wedi awgrymu y gallai godi cyfradd yswiriant gwladol sy'n cael ei dalu gan gyflogwyr.

Yn 么l un perchennog busnes, mae angen i Lywodraeth y DU "fod yn ofalus wrth dargedu cyflogwyr - yn enwedig y rhai llai".

Mae'r Canghellor wedi cadarnhau nos Fawrth y bydd cyflog byw yn codi 6.7%, gyda'r isafswm cyflog yn codi i rai oedrannau hefyd.

Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi rhybuddio y bydd "penderfyniadau anodd" yn cael eu gwneud wrth iddi baratoi at gyhoeddi cyllideb gyntaf y blaid Lafur ers 14 o flynyddoedd.

Un o'r pynciau sy'n cael sylw ydy yswiriant gwladol, gydag awgrymiadau y bydd cyflogwyr yn gorfod talu mwy.

Mae鈥檙 llywodraeth yn defnyddio cyfraniadau yswiriant gwladol i dalu am fudd-daliadau ac i helpu ariannu鈥檙 gwasanaeth iechyd.

Mae鈥檔 cael ei dalu gan weithwyr, cyflogwyr a鈥檙 hunangyflogedig, ond mae'r llywodraeth wedi cadarnhau na fydd yn cynyddu yswiriant gwladol sy'n cael ei dalu gan weithwyr cyflogedig.

Disgrifiad o'r llun, Mae Llinos Thomas yn gwario tua 拢700 yr wythnos ar drydan a nwy yn ei thafarn

Mae Llinos Thomas yn berchennog ar dafarn ym Mhorthaethwy ac yn dweud y byddai cynnydd o'r math yma yn "bryder mawr".

"Mae 'na s么n ei fod o'n mynd i fyny yn y budget yma, os fasa nhw'n rhoi cap arna fo neu'n peidio ei roi fyny yn y lle cyntaf... ella fasa'n haws i ni gael bywoliaeth allan o'r busnes," meddai.

"Ers Covid mae pethau wedi newid eto. Mae pobl yn cymdeithasu'n llawer gwahanol r诺an, cymdeithasu mwy adra...

"Mae'n fwy o her i ni felly yn y diwydiant yma i gael pobl mewn drwy'r drws."

Mae Ms Thomas yn dweud fod costau'r busnes yn uchel iawn.

"Ein cost mwyaf ni fel busnes ydy cyflog - mae'r nifer 'da ni'n gyflogi yn mynd fyny o hyd...

"Just i agor y drws, mae'n costio 拢700 yr wythnos i ni gyda'r trydan a'r nwy ac ati. Heb gael neb mewn drwy'r drws, mae'r costau yna'n parhau."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Rhiannon Elis-Williams bod busnesau'r stryd fawr yn "brwydro yn erbyn cwmn茂au ar y we"

Mae Rhiannon Elis-Williams hefyd yn berchennog busnes yn y dref.

Wrth ymateb i'r awgrym y gallai busnesau ddechrau talu mwy am yswiriant gwladol, dywedodd ei bod yn cefnogi codi trethi ar yr amod ei fod yn "cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus".

Er hynny, rhybuddiodd bod angen i Lywodraeth y DU "fod yn ofalus wrth dargedu cyflogwyr, yn enwedig y rhai llai".

"'Da ni'n brwydro yn erbyn cwmn茂au ar y we ac yn sicr 'da ni wedi colli busnes yn fan'na, ond dwi'n meddwl, yn dilyn Covid, mae pobl wedi dechrau gwerthfawrogi gwerth cymdeithasol, dod allan i siopau bach."

Ychwanegodd: "Mae'n anodd efo adeilad brics a mortar. Mae 'na lot fawr o gostau yn dod gyda hynny os yda chi'n rhentu neu'n berchen yr adeilad."

Codiad cyflog

Dydd Mawrth fe gyhoeddodd y Canghellor y bydd cyflogau gweithwyr yn codi yn dilyn y gyllideb.

Bydd y cyflog byw cenedlaethol, sy'n cael ei dalu i bobl 21 oed a h欧n, yn codi 6.7%.

Bydd cyflog byw felly yn codi o 拢11.44 i 拢12.21 yr awr o Ebrill 2025.

I'r rhai 18-20 oed, bydd yr isafswm cyflog yn codi 拢1.40 yr awr, o 拢8.60 i 拢10.00.

Bydd cyflogau prentisiaid yn codi o 拢6.40 i 拢7.55 yr awr.

Disgrifiad o'r llun, Mae Fflur Elin o'r farn bod angen "amddiffynfeydd" ar gyfer busnesau bach

Mae Fflur Elin o Ffederasiwn y Busnesau Bach yn pryderu fod y gyllideb eleni am fod yn "negyddol" i fusnesau.

Wrth ymateb i'r ffaith fod cyflogau gweithwyr yn codi, dywedodd: "Mae hwn yn digwydd yng nghyd-destun cyllideb sy'n swnio fel ei fod yn mynd i fod yn negyddol iawn i fusnesau.

"Rydyn ni'n pryderu bod yswiriant gwladol yn cael ei gynyddu... mae busnesau yn mynd i orfod meddwl, edrych ar eu llyfrau, edrych os ydyn nhw am allu fforddio cadw staff sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ac wrth gwrs rhywbeth sydd efallai yn atal busnesau rhag gallu tyfu.

"Beth ydyn ni eisiau gweld yw bod yna amddiffynfeydd yn cael eu rhoi mewn lle ar gyfer y busnesau lleiaf hynny."