Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Orsedd i ystyried aelodaeth Huw Edwards
Fe allai Huw Edwards gael ei ddiarddel o Orsedd Cymru ar 么l iddyn nhw gyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos nesaf.
Dydd Mercher fe wnaeth cyn-gyflwynydd newyddion y 大象传媒 bledio'n euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.
Cafodd Edwards ei dderbyn i鈥檙 Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2022.
Wrth ymateb i'r achos llys fore Mercher, dywedodd Christine James, Cofiadur yr Orsedd, nad oes gan y sefydliad "drefn neu beirianwaith benodol i ddiarddel aelodau鈥 ond y bydd y mater yn cael ei drafod ddydd Mawrth nesaf wrth i Fwrdd yr Orsedd gyfarfod ar y Maes ym Mhontypridd.
Fe wnaeth Edwards, 62, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Mercher.
Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad yn ymwneud 芒 41 o luniau.
Roedd saith llun yng nghategori A - y categori mwyaf difrifol o ran lluniau anweddus - 12 yng nghategori B a 22 yng nghategori C.
Fe wnaeth Edwards siarad i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad ac i ddweud ei fod yn pledio'n euog.
Bydd ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 16 Medi a bydd adroddiad prawf yn cael ei baratoi.
Huw Elli yw enw Huw Edwards yn yr Orsedd 鈥 enw sy鈥檔 cydnabod ei fagwraeth yn ardal tre'r sosban yn Llangennech.
Ar 么l iddo gael ei dderbyn yn Nhregaron dywedodd ei bod 鈥測n fraint ac yn brofiad emosiynol鈥.
"Dwi yn teimlo ei bod hi'n fraint ac anrhydedd ac o'n i'n ddiolchgar iawn am y cyfle,鈥 meddai.
"O ran degawdau o waith fel newyddiadurwr a darlledwr, a rhywun sydd wastad wedi ymddiddori yn y pethe, dwi'n falch iawn bod pobl wedi cydnabod hynny.
"Os yw e'n gyfraniad mae pobl wedi gwerthfawrogi wedyn 'wi'n falch am hynny."
Wrth gyhoeddi ei fod yn derbyn y wisg las nodwyd ei fod yn 鈥済yfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy'n ymwneud 芒 hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glynd诺r a Chymru'r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y 19eg ganrif ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia".
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn "adolygu gweithdrefnau mewn perthynas 芒 dyfarniad y Gymrodoriaeth er Anrhydedd a鈥檌 safle fel Athro Er Anrhydedd" yn sgil ple euog Edwards.
Dywedodd Prifysgol Bangor eu bod hefyd am "adolygu'r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd rhoddwyd i Huw Edwards" yn ddiweddarach ddydd Mercher.