Gerard Coutain yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y beirniaid fod Gerard Coutain wedi "arddangos medr dechnegol hyderus a dawn naturiol i ysgrifennu"

Gerard Coutain yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Fe gipiodd y Fedal Gyfansoddi gyda "darn rhythmig ac egn茂ol" dan y teitl 鈥楾riawd o Llannerch y goedwig鈥 ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn.

Mae'r cyfansoddwr 16 oed - sy'n dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl - yn byw yn Rhydaman ers wyth mlynedd ac yn dysgu Cymraeg.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Rafik Harrington o Gaerdydd, a David John Ingham o Abertawe oedd yn drydydd.

Dywedodd Gerard ei fod wedi dechrau chwarae鈥檙 piano yn chwech oed, ac wedi dechrau cyfansoddi yn 14 oed, ond nad yw erioed wedi derbyn unrhyw hyfforddiant cyfansoddi ffurfiol.

"Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o gyfansoddwyr, gan gynnwys Bach, Stravinsky, Debussy, Lili Boulanger, ac yn fwy diweddar Walter Leigh," meddai.

鈥淐yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu darn ar gyfer telyn unigol ('Barbarica') ar gyfer Cerddorion Ifanc Dyfed, ac ym mis Tachwedd diwethaf cefais fy nerbyn i Ysgol Purcell i astudio cyfansoddi, piano a ffidil, gan ddechrau ym mis Medi.

鈥淢ae鈥檙 darn rydw i wedi鈥檌 gyfansoddi wedi鈥檌 sgorio ar gyfer triawd o ffliwt, fiola a thelyn. Ei nod yw archwilio elfennau mympwyol byd natur a ll锚n gwerin, a鈥檙 gwahanol seiniau y byddech chi鈥檔 eu disgwyl o lannerch goedwig gudd.鈥

'Ein cadw ar flaenau鈥檔 sedd'

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Gareth Glyn a Guto Pryderi Puw, a daeth 14 ymgais i law.

Dywedodd y beirniaid eu bod wedi cael "cryn foddhad yn pori drwy鈥檙 amrywiaeth o ddarnau difyr".

鈥淢ae鈥檙 enillydd yn llwyddo i arddangos medr dechnegol hyderus a dawn naturiol i ysgrifennu ar gyfer offerynnau鈥檙 ensemble," meddai'r ddau.

"Dyma ddarn afieithus, llawn egni a oedd yn ein cadw ar flaenau鈥檔 sedd o鈥檙 bar cyntaf i鈥檙 bar olaf.

鈥淩oeddem o鈥檙 farn, y gellid fod wedi cynnig y wobr i unrhyw un o鈥檙 pedwar yn y dosbarth cyntaf ac fe鈥檌 hanogir ynghyd 芒鈥檙 holl gystadleuwyr eraill i barhau i gyfansoddi 鈥 daliwch ati.鈥