Cyn-chwaraewr rygbi Cymru Josh Navidi i ailgydio yn y Gymraeg

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Ken Owens fydd mentor Josh Navidi ar y gyfres newydd o Iaith ar Daith

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi, Josh Navidi wedi cael cymorth cyn-gapten Cymru i ailafael yn y Gymraeg.

Symudodd tad Navidi o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, ac mae ei fam yn wreiddiol o Ynys M么n.

"Dwi eisiau ailgydio yn fy Nghymraeg," meddai Navidi.

鈥淢ae Mam yn siarad Cymraeg - mae hi鈥檔 siarad gyda fi yn Gymraeg ond dwi鈥檔 ateb yn Saesneg."

Cyn-fachwr Cymru, Ken Owens, fydd mentor Navidi ar y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar S4C.

Disgrifiad o'r fideo, Josh Navidi a'i fam, Euros, yn siarad Cymraeg mewn cyfweliad o 2019

Yn Llanddona, Sir F么n mae taith Navidi yn dechrau, lle'r oedd ei nain yn byw.

Ymysg y tasgau sy鈥檔 ei wynebu ar ei daith mae gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm Principality.

鈥淢ae鈥檙 Gymraeg yn rhan ohona i, ond mae jest angen yr hyder i ddatgloi hynny a medru siarad gyda phobl yn yr iaith," ychwanegodd Navidi.

Dechreuodd Navidi, 33, ei yrfa gyda chlwb Caerdydd yn 2009, ac fe enillodd 33 o gapiau dros Gymru.

Cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o rygbi y llynedd ar 么l anaf difrifol i'w wddf.

Ers ymddeol, mae wedi troi at sylwebu a gwerthu ceir.