Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gweithiwr iechyd 'ddim wedi cyffwrdd 芒 dwy ddynes yn amhriodol'
Mae cynorthwyydd meddygol sydd wedi'i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddau glaf wedi gwadu ei fod wedi cyffwrdd 芒'r ddwy ddynes yn amhriodol.
Mae Ieuan Crump, 26 o Gilfach, Sir Caerffili, yn wynebu naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.
Roedd Mr Crump yn gweithio fel cynorthwyydd meddygol dan hyfforddiant yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n pan ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig ar 10 ac 13 Awst 2021.
Mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Dywedodd un ddynes, oedd yn yr ysbyty ar gyfer cyflwr ar ei choluddyn, wrth yr heddlu fod Mr Crump wedi ei chyffwrdd yn amhriodol, gan ddweud ei fod yn rhan o sgan ar y coluddyn.
Honnodd hefyd ei fod wedi gwneud prawf beichiogrwydd, gan gyffwrdd yn ei bronnau a'i fagina.
Gofynnodd cyfreithiwr Mr Crump, Andrew Davies iddo pa ddefnydd fyddai hyn er mwyn ceisio darganfod a ydy dynes yn feichiog.
"Fyddai e ddim o ddefnydd o gwbl," atebodd Mr Crump.
Dywedodd fod y claf "yn llefain ac yn emosiynol" ar y ward am ei bod mewn poen mawr.
Ychwanegodd Mr Crump nad oedd ganddo gof bod unrhyw un wedi dweud wrtho am beidio gwneud sgan coluddyn ar ei ben ei hun.
Dywedodd "mewn byd delfrydol" y byddai rhywun arall yno hefyd ar gyfer sgan o'r fath, ond nad oedd hynny'n bosib ar y pryd.
Ar yr un ward, ar yr un wythnos, mae dynes oedd yn gwella o lawdriniaeth i dynnu ei phendics yn dweud fod Mr Crump wedi ymosod arni'n rhywiol trwy wneud profion mewnol diangen.
Roedd y claf wedi cwyno nad oedd hi'n gallu pasio d诺r, a dywedodd fod Mr Crump yn bresennol pan wnaeth uwch nyrs geisio gosod cathetr.
Dywedodd Mr Crump wrth Llys y Goron Caerdydd nad oedd wedi gofyn i'r claf a oedd hi eisiau ef yn bresennol ar gyfer hyn, ond mynnodd fod y claf wedi gofyn a allai fod yn bresennol.
Gwadodd ei fod wedi gofyn i aros a gwylio.
Dywedodd ei fod yn sefyll yn wynebu'r claf, oedd yn gorwedd mewn "ystum rhoi geni" wrth i'r nyrs geisio gosod y cathetr.
Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi cyffwrdd 芒'r claf yn amhriodol, neu ddweud wrthi fod angen ei chyffwrdd, dywedodd Mr Crump nad oedd hynny wedi digwydd.
Ddim wedi gallu cael ei radd
Roedd Mr Crump yn emosiynol wrth iddo ddweud fod ei brifysgol wedi dal yn 么l rhag cyflwyno ei radd nyrsio iddo oherwydd yr honiadau, ac nad yw chwaith yn gallu gweithio fel cynorthwyydd meddygol na gwirfoddoli gyda gwasanaeth ambiwlans St John.
Mae'n gweithio mewn ffatri ar hyn o bryd, meddai.
Clywodd y llys ei fod wedi gweithio fel cynorthwyydd meddygol dan hyfforddiant tra'n astudio am ei radd, a'i fod yn gweithio cymysgedd o shifftiau oedd angen eu llenwi.
Pan ofynnodd ei gyfreithiwr iddo faint o annibyniaeth oedd ganddo yn y r么l honno, dywedodd "ychydig iawn... dy'ch chi'n cefnogi'r nyrs".
Mae'r achos yn parhau.