Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Leigh Alexandra
Mae Leigh Alexandra yn actores a chantores.
Mae鈥檔 byw ym Mhontardulais ar y stryd lle cafodd ei geni. Mae Leigh hefyd yn cyfansoddi ac yn rhyddhau caneuon. Yn ddiweddar cafodd dwy o'i chaneuon eu dewis ar 鈥楤ethan Elfyn鈥檚 Wales Mix鈥 ar gyfer 大象传媒 Gorwelion.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Bore Nadolig, 1989, yn bum mlwydd oed ac yn dod lawr llawr i weld fod Mam a Dad wedi prynu piano i fi. Cyn hynny, dechreuais i ddysgu ar keyboard bach i blant gyda dim ond dau wythfed, felly pan welais i鈥檙 holl allweddi piano a rhoddais fy mysedd bach arni am y tro cyntaf, roedd yn deimlad arbennig iawn.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Bues i鈥檔 ffodus iawn i weithio i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan blwyddyn diwethaf, a thra鈥檔 aros yn Nefyn aethom ni fel t卯m i Borthdinllaen i D欧 Coch ar y nos Fercher, a hynny am y tro cyntaf i bawb. Dwi鈥檔 cofio ni gyd yn cyffroi wrth gerdded yn agosach, yn sgipio a chwerthin, bron yn gallu teimlo鈥檙 naws cyn cyrraedd. Pan gyrhaeddon ni, roedd yn hawdd gwybod pam o fewn eiliadau... mae鈥檙 lle fel paradwys llwyr!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Wel, mae hwn yn un anodd i鈥檞 ateb, gan fy mod wedi cael sawl noson wych ar hyd fy mywyd; yn gwylio bandiau, cyngherddau, yn teithio, gweithio, ac yn mwynhau cwmni ffrindiau a theulu. Ond un sy鈥檔 aros yn y cof yw haf 2017. Roeddwn i鈥檔 byw dramor am gyfnod rhwng 2015 a 2018, ac wrth gymryd amser i benderfynu ar ble i setlo nesaf, weithiais i haf mewn sawl g诺yl gerddoriaeth ar hyd Cymru a Lloegr yn gweithio gyda鈥檙 t卯m lles, a rheolais d卯m lles plant a phobl ifanc ar gyfer Boomtown.
Un o鈥檙 gwyliau olaf wnaethon ni weithio arni oedd Bestival, ac roedd hi wedi bod yn un prysur o ran cynorthwyo ymwelwyr a darparu lles a gofal i鈥檙 rheini oedd angen. Ar 么l gweithio tair shifft hir am 16 awr, wnes i orffen mewn da bryd i allu mynd i weld un o鈥檓 hoff gantorion, Rag'n'Bone Man. Dyna oedd y tro cyntaf i mi glywed e鈥檔 canu鈥檔 fyw, ac ar 么l sawl diwrnod heriol yn gweld pobl yn mynd i鈥檙 eithaf o fwynhau, wnes i ymgolli鈥檔 llwyr yn ei gerddoriaeth a鈥檌 lais gwych. Gyda鈥檙 haul yn disgleirio a phawb yn canu, roedd hi鈥檔 noson i鈥檞 chofio.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Caredig. Doniol. Bubbly.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'n么l?
Y noson ges i fy 鈥榓rwyddo鈥 mewn i鈥檙 gr诺p 鈥楤rownies鈥 yn fy mhentref. Roeddwn i鈥檔 teimlo鈥檔 nerfus am wneud, felly cyn mynd i鈥檙 ysgol y dydd hynny, gofynnodd Mam pa bryd o fwyd ro鈥檔 i eisiau cyn mynd. Fy newis oedd sosej, mash tatws, pys a grefi gyda winwns. I arwyddo mewn mae rhaid dweud dy vows; addo bod yn 鈥楤rownie鈥 sy鈥檔 estyn llaw, ac ati... ac yna ar 么l dweud popeth sydd angen, plygu 鈥榤laen i orffen y broses yn y cylch gyda dy ddwylo. Wrth i fi estyn 鈥榤laen i wneud, dyma fi鈥檔 rhechi yn rili uchel (ar 么l llond blaten o grefi winwns) ac wrth i bawb edrych a chwerthin, wnes i droi鈥檔 lliw betys a dweud 鈥it wasn鈥檛 me鈥. Ha ha. Wnaeth e'n sicr ddod wrtho i, felly pam nes i feddwl gallwn i esgus, dwi ddim yn si诺r. Doniol iawn!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Ro鈥檔 i鈥檔 teithio trwy Lundain o Gaerdydd mewn brys i gyrraedd y Royal Opera House i gwrdd 芒 fy ffrind annwyl Julie sy鈥檔 gweithio yna, ac i wylio La boh猫me. Wrth gyrraedd Gorsaf Paddington, roeddwn i wedi cyffroi a dechreuais i wneud stori Instagram wrth gerdded at y lle i ddal tacsi. Doeddwn i ddim yn canolbwyntio ar beth oedd o gwmpas, ond yn dal fy ff么n yn y llaw yn siarad 芒鈥檙 sgrin, a dyma fi鈥檔 symud wrth i鈥檙 ciw symud, ond heb edrych, rhoddais fy llaw allan ar beth ro鈥檔 i鈥檔 meddwl oedd yn rheilen, ond roedd e鈥檔 un oedd yn symud, felly wnes i gwympo yn ei erbyn a gyda鈥檙 rucksack ar fy nghefn hefyd, wnes i gwympo i鈥檙 llawr fel sach o datws. Gyda鈥檙 holl beth wedi鈥檌 ffilmio oherwydd nes i ddal yn sownd i鈥檙 ff么n i beidio gollwng hi a鈥檌 dorri. Wps! Gwers bwysig wedi dysgu'r diwrnod hynny ar 么l i鈥檙 fideo postio ar fy stori a darganfod fy mod wedi torri fy mhen-glin hefyd.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Mae gwylio鈥檙 Olympics ym Mharis wedi bod yn llawn emosiwn. Dwi wedi crio dagrau hapus sawl gwaith dros yr wythnosau diwethaf yn gwylio鈥檙 balchder sydd yn cael ei rannu yna. Mae鈥檔 hyfryd i weld yr athletwyr yn dathlu a chefnogi ei gilydd!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi ddim yn si诺r os mae鈥檔 rhywbeth drwg (weithiau yn embarassing), ond, os dwi鈥檔 dweud rhywbeth, neu yn clywed geiriau yn cael eu siarad sy鈥檔 f鈥檃tgoffa o lyrics mewn c芒n, yna dwi鈥檔 gorfod canu鈥檙 llinell o鈥檙 g芒n hynny.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Ar hyn o bryd dwi鈥檔 ail-ddarllen un o鈥檓 hoff lyfrau erioed 鈥 The Night Circus gan Erin Morgenstern. Mae鈥檔 llawn hud a lledrith, ac yn lle gwych i adael i鈥檙 meddwl creadigol ymlacio (a chael syniadau). Dwi hefyd wrth fy modd yn gwylio unrhyw ffilm gyda Melissa McCarthy ynddi, mae hi wir yn neud i fi chwerthin, sy鈥檔 rhywbeth dwi鈥檔 hoff iawn o wneud.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi鈥檔 cael diod a pham?
Mi fyddaf wrth fy modd yn cael diod gyda thad fy nhad, Grandpa Ray eto.
Wnaeth e farw ar fy mhenwythnos cyntaf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd
pan oeddwn yn ddeunaw oed. Cawsom ni ddim digon o amser gyda鈥檔
gilydd, a dwi鈥檔 si诺r bydda fe wrth ei bodd i glywed hanes fy mywyd dros yr
ugain mlynedd diwethaf dros ddiod. Roedd e fel cawr mawr cariadus, ac yn
dotio arnom ni fel chwiorydd a chefndryd gyda phob cyfle a gafodd.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Wnes i ddim siarad gair o Gymraeg tan ro鈥檔 i鈥檔 wyth mlwydd oed. Symudon ni o ysgol Saesneg i Ysgol Gynradd Bryniago, Pontarddulais a mynd i uned iaith benodol wedi鈥檌 leoli yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yn wythnosol am ddau dymor. Doedd Mam a Dad ddim yn siarad Cymraeg, ond gyda鈥檙 uned ac amsugno鈥檙 iaith yn y dosbarth, roeddwn yn rhugl o fewn y ddau dymor. Y penderfyniad gorau erioed sydd wedi cael ei wneud drosta i.
Pa lun sy鈥檔 bwysig i chi a pham?
Mae鈥檙 llun hon wir yn bwysig i fi, roeddwn i newydd redeg o ochr y mynydd 7500 troedfedd uwchben Grindlewald, Y Swistir yn wynebu鈥檙 Eiger a Jungfraujoch. Mae鈥檔 f鈥檃tgoffa bod e鈥檔 bosib gwneud pethau sy鈥檔 teimlo鈥檔 hiwj weithiau, a鈥檜 mwynhau. Roedd y teimlad o fod mor uchel uwchben y tir a chlywed lleisiau a s诺n y clychau ar y gwartheg yn anhygoel.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi鈥檔 ei wneud?
Mi fyswn i wrth gwrs yn gweld fy holl deulu a ffrindiau am goffi a chacen, yna ar 么l canu鈥檙 piano, byddaf yn mynd i fy hoff draeth, Caswell. Byddaf yn gwario鈥檙 diwrnod yn y m么r, yn cael y picnic gorau erioed, yn darllen a gwrando ar gerddoriaeth, a gwylio鈥檙 haul yn machlud. Bliss!
Petasech chi鈥檔 gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mi faswn i wrth fy modd i fod yn Ofodwr NASA am ddiwrnod. Un sydd wedi gwneud yr holl waith, profion a hyfforddiant paratoi i deithio i鈥檙 gofod ac sy鈥檔 barod i hedfan a glanio ar y lleuad ac yn 么l am ddiwrnod. Waw, dychmygwch!