Cynllun 'arloesol' i brynu tai ar gyfer pobl leol

Disgrifiad o'r llun, Mae prynu t欧 ym Mhenmachno yn gynyddol anodd ers sbel i drigolion lleol

Mae menter gymunedol yn Nyffryn Conwy yn gobeithio mynd i'r afael 芒'r argyfwng tai cefn gwlad trwy eu prynu a'u gosod eu hunain i drigolion lleol.

Mae'n un o nifer o syniadau y bydd y gr诺p ym Mhenmachno yn eu hystyried mewn ymateb i ddiffyg tai fforddiadwy.

Mae disgwyl i swyddog datblygu gael eu penodi yn yr wythnosau nesaf gyda鈥檙 bwriad o geisio am arian grant, arwain cynlluniau cyfranddaliadau a chynlluniau benthyg lleol.

Fe gafodd y swydd ei disgrifio yn yr hysbyseb fel un "arloesol" a fyddai'n gweddu ymgeiswyr sydd "ar d芒n dros y Gymraeg".

Mae'r swydd yn cael ei hariannu gan Barc Cenedlaethol Eryri am ddwy flynedd yn y lle cyntaf, ac mae'r fenter yn cael cefnogaeth y fenter iaith leol.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r argyfwng tai'n tanseilio'r holl weithgarwch i hybu'r Gymraeg mewn ardaloedd gwledig fel Penmachno, medd Meirion Davies

Dywed Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy, Meirion Davies eu bod "yn draddodiadol... ynghlwm 芒 chreu defnydd iaith trwy greu gweithgareddau" ond eu bod hefyd yn creu prosiectau "mwy economaidd eu naws".

Fe gafodd y cynllun prynu a gosod tai "ei sbarduno gan argyfwng tai sy鈥檔 taro ardaloedd ar hyd a lled y Gymru wledig gan danseilio cymunedau allweddol a dyfodol y Gymraeg".

Mae'r argyfwng tai, medd Meirion Davies, yn sefyllfa "sy'n bygwth tanseilio'n holl waith".

Ychwanegodd bod sawl ffordd o fynd i'r afael 芒'r broblem, gan gynnwys ceisio am grantiau, edrych ar gyfranddaliadau lleol a chynlluniau Benthyg yn Lleol.

Disgrifiad o'r llun, Fe waethygodd yr argyfwng tai lleol yn sgil y pandemig, medd Owen Davies

Penmachno oedd y dewis fel man cychwyn wedi i arolwg diweddar awgrymu bod 36% o dai yr ardal yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau, heb bobl yn byw ynddyn nhw'n barhaol.

Roedd hynny ar ddechrau'r pandemig, ac i bobl fel Owen Davies, sy'n gyfrifol am broject adnewyddu neuadd goffa'r pentref, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny.

"Nath pobol sydd ddim yn byw yma yn barod [sylweddoli taw'r] unig beth o'ddan nhw angen oedd broadband connection ac o'ddan nhw'n gallu gweithio oddi fan hyn," dywedodd.

"O'dd y tai i gyd yn ca'l eu snapio fyny yn sydyn iawn [a] pwsio prisia' i fyny i'r pwynt lle ma'n amhosib i bobol ifanc lleol trio prynu eiddo yn y pentre."

Disgrifiad o'r llun, Sicrhau eiddo ar gyfer anghenion lleol yw'r nod, medd Eryl Owain

Mae'r cynghorydd cymuned Eryl Owain ymhlith y rhai wnaeth benderfynu bod angen ymyrryd gan sefydlu gr诺p tai fforddiadwy Penmachno.

Fe fydd y gr诺p, meddai, "yn edrych ar y ffynonella' posib lle gellid ca'l cyllid i alluogi gr诺p cymunedol i brynu eiddo sy'n dod ar y farchnad ym Mhenmachno a defnyddio'r eiddo 'na wedyn ar gyfer anghenion lleol".

Dywedodd Elliw Owen, Pennaeth Polisi Cynllunio Awdrudod Parc Cenedlaethol Eryri, eu bod "yn hynod falch o allu cefnogi'r cynllun arloesol yma i geisio ymateb i'r her argyfwng tai ym Mro Machno".

Ychwanegodd: "Gall cynlluniau o'r fath fod yn arf allweddol i sicrhau dyfodol iaith a diwylliant ein cymunedau, a hyfywdra economi wledig Eryri."