Holl fanciau Dinbych i gau erbyn diwedd y flwyddyn

Disgrifiad o'r llun, Bydd pob un o fanciau Dinbych ar gau erbyn diwedd y flwyddyn
  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion S4C

Bydd pob un o fanciau Dinbych wedi cau eu canghennau erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond mae un o Aelodau'r Senedd yn yr ardal yn annog yr olaf ohonyn nhw, Halifax, i ailfeddwl.

Yn 么l y banc mae 'na lai o ddefnydd o'r gangen bellach.

Mae Comisiynydd Pobl H欧n Cymru wedi pwysleisio nad oes llawer o henoed yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.

"Mae Dinbych fan hyn 'di colli banciau," meddai Llyr Gruffydd, aelod Plaid Cymru dros ranbarth y Gogledd yn Senedd Cymru, wrth siarad 芒 Newyddion S4C.

"Mae Barclays 'di cau, mae Natwest 'di cau, mae HSBC yn llythrennol yn cau yr wythnos nesa', a nawr Halifax.

"Be 'dan ni'n gweld ydy pobl sydd yn dibynnu ar y canghennau yma, yn enwedig pobl hyn falla' sydd ddim yn gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau ar-lein... ac hefyd mewn ardaloedd gwledig.

"Dw i'n gwybod o brofiad mae 'na ymgyrchu brwd wedi bod dros wella gwasanaethau band eang.

"'Di o ddim yn hawdd i bobl gael mynediad i rai o'r gwasanaethau yma, yn y modd y mae'r banciau'n dweud y gallan nhw fod yn eu defnyddio yn lle defnyddio'r gangen."

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Ffion Howatson gyfrifion banc gyda'r ddwy gangen sy'n cau yn Ninbych

Mae'n mynd i olygu peth trafferth i Ffion Howatson o gaffi Ji-Binc - yn enwedig gan fod ganddi gyfrif gyda dau o'r banciau sydd yn cau.

"[Dwi'n bancio efo] HSBC... sy'n cau wythnos nesa', gynna'i hefyd account yn Halifax ac mae hwnnw'n cau ddiwedd y flwyddyn.

"Fydda' i'n gorfod mynd i Ruthun r诺an i wneud bancio i'r busnes, sy'n golygu siwrna' ychwanegol, amser yn brin, ond bydd rhaid i rywun wneud o."

'Defnydd wedi gostwng'

Eto mae Halifax yn dweud bod y defnydd o gangen Dinbych wedi gostwng o 69% rhwng 2017 a 2022.

Mae'r rhan fwyaf o'u cwsmeriaid yn defnyddio bancio ar-lein neu ar y ff么n symudol, yn ogystal 芒 mynd i ganghennau eraill.

Bydd modd i bobl dynnu arian a thalu sieciau i'w cyfrifon banc yn Swyddfa'r Post, sydd ond rai munudau o'r gangen leol.

Mae'r banc yn ychwanegu bod wyth peiriant codi arian o fewn milltir i'r gangen.

Bydd banciwr cymunedol hefyd yn ymweld 芒 Dinbych ar 么l i'r gangen gau, i gynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb "am ba hyd bynnag y bydd y gymuned angen hynny".

Disgrifiad o'r llun, Mae Freda Williams yn poeni am bobl ei hoed hi sy'n ei chael hi'n anodd bancio ar-lein

Er bod Freda Williams yn bancio drwy ei ff么n, mae'n poeni na fydd hynny'n opsiwn i bawb.

"Yn ffodus dwi'n reit dda am ddefnyddio mobile phone felly dwi'n gallu 'neud yr holl fancio ar-lein," meddai.

"Ond dwi'n crugo am bobl fy oed i sydd ddim yn hyderus 芒'r mobile phone neu'r smart phone, neu'r computer, beth bynnag."

Gofyn mae Dwynwen Davies pam bod rhaid i bobl fynd ar-lein i ddefnyddio'r banc.

"Pam na fedran ni gael y one to one 'na, bod pob peth yn gorfod mynd online?"

'Pobl yn poeni am ddiogelwch'

Mae'r duedd o weld banciau'n cau hefyd yn poeni Comisiynydd Pobl H欧n Cymru, Helena Herklots.

"Mae'r cynnydd mewn bancio ar-lein wedi arwain at gau llawer o ganghennau'r stryd fawr, ac mi wn fod hynny'n achosi anawsterau i lawer o bobl h欧n, sy'n fwy tebygol o beidio 芒 bod ar-lein ac sy'n poeni hefyd am ddiogelwch," meddai.

"Mae hyn yn dangos un o'r ffyrdd y gall peidio 芒 bod ar-lein amharu ar fywydau pobl.

"Dyna pam dwi'n gofyn i bobl h欧n gysylltu 芒'm swyddfa i rannu eu profiadau o golli gwasanaethau wyneb yn wyneb, a sut mae hynny wedi effeithio arnyn nhw."

Mae Halifax yn annog eu cwsmeriaid yn Ninbych i ddod i mewn i'r gangen i gael cyngor.

Bydd y banc yn cau ar 4 Rhagfyr eleni.