Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Protestio yn erbyn 'arafwch' adeiladu ffordd osgoi
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae鈥檙 Ysgrifennydd dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn dweud ei fod yn 鈥渄eall rhwystredigaeth鈥 cymuned Llanbedr yng Ngwynedd sy鈥檔 parhau i alw am ffordd osgoi o amgylch y pentref.
Daeth dros 60 o bobl leol at ei gilydd fore Llun i gerdded yn araf drwy Lanbedr i fynegi eu siom nad yw'r cynllun wedi dwyn ffrwyth eto.
Yn 么l Ken Skates, mae angen 鈥渄arn o waith鈥 er mwyn ateb pryderon y gymuned ond mae'n mynnu y bydd yn gwrando ar lais y gymuned cyn dod i benderfyniad terfynol.
Dywedodd hefyd y byddai 拢200,000 yn cael ei wario eleni er mwyn deall anghenion yr ardal lle mae tagfeydd sylweddol yn ystod cyfnodau prysur.
Dywedodd Mr Skates: 鈥淥s mai ffordd sydd ei hangen, mae鈥檔 rhaid sicrhau fod y l么n yn cael ei hadeiladu i鈥檙 safon gorau posib er mwyn cydymffurfio gyda鈥檔 targedau hinsawdd.鈥
Yn ystod y tymor gwyliau mae 'na dagfeydd yn yr ardal wrth i lor茂au, ceir a charafanau geisio teithio drwy鈥檙 pentref ac ar draws pont gul, a hynny'n achosi heriau sylweddol i bobl.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2021 na fyddan nhw鈥檔 bwrw mlaen 芒 chynllun i godi ffordd osgoi o ganlyniad i dargedau newid hinsawdd.
Ond y llynedd, fe ddywedodd y cyn weinidog trafnidiaeth, Lee Waters, y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffordd osgoi gyda therfyn cyflymder is.
Mae trigolion yr ardal yn dweud nad oes cynllun wedi dwyn ffrwyth ac maen nhw am weld newid 鈥済o iawn鈥.
'Da ni am gwffio'
Un oedd yn rhan o'r brotest oedd Emsyl Davies, sy'n byw'n lleol.
Mae'n dweud bod y gymuned yn rhwystredig iawn.
"'Da ni鈥檔 teimlo nad oes dim yn digwydd a bod o鈥檔 araf鈥, meddai.
鈥淢ae isho stopio鈥檙 dadlau a chael rhywbeth yn digwydd a da ni mor frustrated a da ni am gwffio yr holl ffordd鈥.
Yn ystod yr haf, dywedodd Ms Davies fod y ffordd drwy Lanbedr yn 鈥渄difrifol o wael鈥.
鈥淒y'n nhw ddim yn gwybod beth yw 20 milltir yr awr ac ma' nhw鈥檔 mynd mor wyllt, dy'n nhw鈥檔 malio dim am gefn gwlad.鈥
'Ddim yn saff rili cerdded efo'r babi'
Yn 么l Delyth Jones, sy鈥檔 byw yn Harlech ond yn wreiddiol o Lanbedr, mae鈥檙 sefyllfa yn heriol tu hwnt.
鈥淒wi di bod yn styc mewn traffic o blaen am awr a dwi eisiau bypass... mae鈥檔 anodd r诺an gyda babi鈥, meddai.
鈥淒ydi o ddim yn saff rili cerdded yn y pentref efo鈥檙 babi... mae鈥檔 beryg, dydi palmant y bont ddim yn ddigon wide i gerdded efo bygi so dwi gorfod mynd ar y ffordd鈥.
Un o鈥檙 rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu ydi Goronwy Davies ac mae'n dweud bod 鈥済ymaint o addewidion wedi bod ond dim yn digwydd鈥.
鈥淢ae鈥檔 drychinebus, dwi ddim yn gwybod lle mae鈥檙 arian yn mynd... rhyw bwyllgorau mashwr.鈥
Ychwanegodd bod yn rhaid i'r pleidiau gwleidyddol gydweithio er mwyn gwireddu鈥檙 cynllun.
Wrth siarad 芒 rhaglen Newyddion S4C, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ei fod yn deall y pryderon.
Dywedodd Ken Skates: 鈥淒wi鈥檔 clywed be' sydd gan y gymuned i ddweud a dwi鈥檔 deall eu rhwystredigaeth... dwi鈥檔 ymwybodol o鈥檙 heriau mae鈥檙 gymuned hon yn eu hwynebu bob dydd.
鈥淢ae鈥檔 rhaid edrych ar y manylion a gweithio ar hynny i weld sut fath o l么n neu ffordd sydd ei hangen ac edrych ar y cydbwysedd rhwng llwybrau teithiau llesol ac unrhyw l么n i fodurwyr.
鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni bori dros hynny i gyd ac yna bydd modd bwrw ati."
Ychwanegodd bod y Llywodraeth wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda Chyngor Gwynedd dros y mater.