Glain Rhys: 'Ysbrydoledig' cyfarwyddo sioe'r Urdd ddegawd ar 么l actio ynddi

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Glain Rhys yn 2014, a 2024

Ddegawd union ers perfformio yn sioe ieuenctid yr Urdd, mae Glain Rhys wedi s么n am y wefr o fod yn helpu鈥檙 genhedlaeth nesaf fel cyd-gyfarwyddwr sioe eleni.

Ac mae hi鈥檔 cael gwneud hynny gydag un o鈥檌 ffrindiau pennaf, oedd hefyd ar y llwyfan gyda hi yn y sioe honno n么l yn 2014.

Erbyn heddiw mae Glain Rhys yn adnabyddus fel cantores a pherfformiwr ac yn aelod o鈥檙 gr诺p Welsh of the West End.

Ond fel yr eglurodd wrth Cymru Fyw fe blannwyd yr hadyn i fod ar y llwyfan flynyddoedd yn 么l ac mae鈥檙 diolch i Gwmni Theatr Maldwyn.

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Glain (yn y blaen) gyda rhai o gast Dyma Fi, sioe ieuenctid yr Urdd 2014

Sefydlwyd y cwmni gan Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins yn 1981. Wrth iddi dyfu i fyny yn Y Bala, doedd y Glain ifanc methu disgwyl i fod yn ddigon hen i gael y cyfle i fod yn rhan o gynhyrchiad.

Meddai: 鈥淩o鈥檔 i wedi tyfu fyny yn gwrando ar sioe gerdd Ann gan Theatr Maldwyn. Roedd Mam a Dad yn rhan o hwnnw n么l yn 2003, a ro鈥檔 i鈥檔 idolisio Derec, Penri a Linda ac yn meddwl eu bod nhw鈥檔 ffantastig.

鈥淩o鈥檔 i鈥檔 canu Ann yn y car, roedd y CD wedi scratchio i gyd erbyn y diwedd a doedd o ddim yn chwarae鈥檙 caneuon yn iawn. Ro鈥檔 i鈥檔 gwybod nhw air am air.

鈥淲edyn dwi鈥檔 cofio eistedd lawr tua 2007 neu 2008 ac roedd 鈥榥a segment ymlaen ar Heno am Theatr Maldwyn a fi鈥檔 meddwl 'faswn i鈥檔 caru bod yn rhan ohono - faswn i鈥檔 neud unrhyw beth鈥.

"Wedyn dwi鈥檔 cofio Dad yn deud eu bod nhw鈥檔 cynnal clyweliadau - pan o鈥檔 i鈥檔 blwyddyn wyth - a gofyn faswn i鈥檔 licio rhoi cynnig arni a nesh i neidio ar y cyfle.

鈥淣esh i ddysgu'r monolog hir yma - dwi erioed wedi dysgu monolog mor sydyn - gwneud y clyweliad, ac wedyn disgwyl i鈥檙 llythyr ddod. Dwi鈥檔 cofio fo鈥檔 cyrraedd a fy nghalon i鈥檔 mynd, a鈥檌 agor... a ro鈥檔 i wedi cael rhan.鈥

Roedd hynny yn 2010 ond gydag Eisteddfod yr Urdd yn dod i鈥檙 Bala yn 2014 fe gafodd hi鈥檙 cyfle i fod yn rhan o鈥檙 sioe ieuenctid. Dyma Fi oedd enw'r cynhyrchiad ac roedd wedi ei sgwennu gan blant Derec Williams - sef Branwen, Meilir ac Osian Williams.

Disgrifiad o'r llun, Plant Derec Williams sy'n adnabyddus erbyn hyn fel cerddorion a pherfformwyr

Yn drist iawn, bu farw Derec yn ystod wythnos yr eisteddfod.

鈥淩oedd o鈥檔 amser emosiynol iawn i bawb ohonom ni,鈥 meddai Glain. 鈥淩o鈥檔 i鈥檔 meddwl y byd o Derec, felly roedd o鈥檔 rili emosiynol i ni gyd.

鈥淩oeddan ni i gyd wedi cynhyrfu鈥檔 l芒n i wneud y sioe yma ac wedyn ddigwyddodd hyn.鈥

Fe gafodd y perfformiad olaf o Dyma Fi ei gohirio a blwyddyn yn ddiweddarach cynhaliwyd cyngerdd gyda鈥檙 caneuon er mwyn cloi'r cynhyrchiad. Ond roedd Derec a Theatr Maldwyn eisioes wedi gadael eu marc ar Glain a nifer o berfformwyr eraill.

鈥淒wi鈥檔 hynod, hynod ddiolchgar am y cyfle gesh i efo Theatr Maldwyn,鈥 meddai Glain. 鈥淒oedd 鈥榥a ddim byd fel yna o gwmpas yng ngogledd Cymru, dim byd yn Y Bala. Roedd o鈥檔 broffesiynol ac roedda ni鈥檔 cael union be鈥 fydda ni鈥檔 cael mewn ysgol ddrama - ond yn Gymraeg hefyd.

鈥淎c i fi, a phobl fel Luke McCall a Steffan Harri - fydda ni yn sicr ddim yn gwneud be鈥 da鈥檔 ni鈥檔 neud heb Theatr Maldwyn.鈥

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Ymarfer ar gyfer sioe uwchradd yr Urdd ym Meifod eleni gyda Glain Rhys a Si么n Emlyn. Mae'r sioe yn cynnwys caneuon Rhydian Meilir fel Mr G, Brenhines Aberdaron a Gawn ni weld sut eith hi.

Nawr, ddegawd yn ddiweddarach, mae Glain yn cydlynu ymarferion sioe gynradd Ein Maldwyn Ni. Mae'r perfformiad yn cynnwys detholiad o Pum Diwrnod o Ryddid, drama gerdd oedd wedi鈥檌 hysgrifennu gan Linda, Penri a Derec a鈥檌 pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1988 gan bobl ifanc Maldwyn.

Mae hi hefyd yn cydlynu ymarferion y sioe ieuenctid - Gawn Ni Weld Sut Eith Hi, sy'n jukebox musical wedi鈥檌 seilio ar ganeuon y cyfansoddwr lleol Rhydian Meilir.

Mae'n brofiad "ysbrydoledig" meddai ac mae hi wrth ei bodd yn gallu cyd-gyfarwyddo hwnnw gyda Si么n Emlyn 鈥 un o鈥檌 ffrindiau ers ei dyddiau cyntaf yn Theatr Maldwyn ac un o鈥檙 cast oedd gyda hi yn perfformio sioe ieuenctid yr Urdd yn 2014.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Ffrindiau ar ac oddi ar y llwyfan - Glain Rhys gyda'i chyfaill a chyd-gyfarwyddwr Si么n Emlyn

鈥淢i ryda ni鈥檔 dau wedi bod efo Theatr Maldwyn ers 2010 - roedda ni鈥檔 rhannu lifft i fynd yno,鈥 meddai Glain.

鈥淩oedda ni yn yr un chweched dosbarth 芒鈥檔 gilydd, roeddan ni ar yr un cwrs coleg ac mi'r ydan ni wedi bod yn ffrindiau gorau ers blynyddoedd felly mae'n rili, rili neis.

鈥淎llai edrych i鈥檞 lygaid o, a fo edrych arna鈥 i a dwi鈥檔 gwybod yn union be鈥 mae o鈥檔 mynd i鈥檞 ddweud.

鈥淒oedd yr un ohonon ni wedi cyfarwyddo o鈥檙 blaen ond gan ein bod ni鈥檔 actorion, rydan ni鈥檔 gwybod be鈥 ydi鈥檙 broses ac yn gwybod be鈥 i鈥檞 ddisgwyl ganddyn nhw.

鈥淲naethon ni'r sioe yn 2014, felly 10 mlynedd yn 么l roeddan ni鈥檔 gwneud yn union be鈥 mae鈥檙 plant a phobl ifanc yma yn gwneud felly 鈥榙a鈥檔 ni鈥檔 gwybod be' i鈥檞 ddisgwyl.

鈥淒a ni鈥檔 gwybod bydd o鈥檔 reit stressful ar adegau ond does 鈥檔a ddim amser wedi bod pan dwi wedi meddwl 鈥榦 god da'n ni ddim yn mynd i fedru gwneud hwn鈥, achos mae petha鈥檔 mynd yn gr锚t. Mae o wedi bod yn gr锚t gweithio efo Si么n.

"Mae cyfarwyddo yn rhoi yr un teimlad o foddhad, ond mewn ffordd wahanol, i fod yn actio ar y llwyfan. Mi'r ydan ni wedi gweithio'n rili caled, ac mae'r plant a'r bobl ifanc wedi gweithio mor galed a dwi wrth fy modd yn gweithio efo nhw."