Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prosesau dewis ymgeiswyr Llafur 'yn codi cwestiynau'
Mae yna "gwestiynau i'w gofyn i arweinyddiaeth Llafur Cymru" yngl欧n 芒 phrosesau dewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol, yn 么l aelodau Llafur llawr gwlad.
Mae pryderon wedi codi ymhlith aelodau Llafur am y ffaith bod ymgeiswyr wedi cael eu dewis ar gyfer seddi yng Nghymru heb drafod hynny gydag aelodau lleol o flaen llaw.
Dywedodd Ceri Evans, Cynghorydd Llafur yn Abertawe, bod y broses yn mynd yn groes i addewidion a gafodd eu gwneud gan y blaid.
Mae Llafur Cymru yn dweud fod y penderfyniad wedi鈥檌 wneud gan banel 鈥渁 ffurfiwyd gan gynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru ac aelodau lleol".
Ddydd Gwener, cadarnhaodd Llafur mai Torsten Bell, Prif Weithredwr y Resolution Foundation, fydd eu hymgeisydd ar gyfer sedd Gorllewin Abertawe, ac Alex Barros-Curtis, fydd eu hymgeisydd ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Ond mae aelodau Llafur yn y ddwy ardal wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru nad oedden nhw'n ymwybodol o'r penderfyniadau tan y cyhoeddiad.
Dywedodd un aelod dienw o'r blaid yn etholaeth Gorllewin Caerdydd "nad oedden nhw wedi cael unrhyw fewnbwn o gwbl, gawsom ni ddim gwybod dim byd o flaen llaw".
'Mynd yn groes i addewidion'
Yn 么l y cynghorydd Ceri Evans, mae'r broses o ddewis ymgeiswyr "yn mynd yn groes i addewidion a gafodd eu gwneud gan Syr Keir Starmer, a ddywedodd y byddai ASau yn cael eu dewis gan aelodau lleol".
"Yn amlwg dydi hynny heb ddigwydd yma. Ni all fod yn gyd-ddigwyddiad bod yr ymgeisydd yma yn dod o Lundain. Dyw teimladau aelodau Gorllewin Abertawe ddim yn cael eu hystyried."
Dywedodd aelod arall wrth 大象传媒 Cymru bod "dylanwad aelodau Llafur lleol yn cael ei erydu, a bod 'na gwestiynau i'w gofyn i arweinyddiaeth Llafur Cymru yngl欧n 芒'u heffaith ar y broses dewis".
"Dyw'r penderfyniad yma yn sicr heb gael ei wneud yn lleol," meddai.
Cafodd Alex Barros-Curtis, ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd, ei fagu yng ngogledd Cymru ac mae wedi gweithio fel pennaeth materion cyfreithiol y Blaid Lafur Prydeinig.
Torsten Bell, ymgeisydd y blaid ar gyfer Gorllewin Abertawe, yw Prif Weithredwr y felin drafod economaidd y Resolution Foundation, a chyn hynny roedd yn ymgynghorydd arbennig i Alistair Darling tra oedd yn Ganghellor Llafur.
Ym mis Mai fe ysgrifennodd Mr Bell erthygl yn y Guardian yn galw am gael gwared 芒 chap Budd-dal Plant Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan ddweud y byddai hynny yn "codi hanner miliwn o blant allan o dlodi".
Bwriad y Blaid Lafur, ar hyn o bryd, yw cadw'r cap presennol.
Dywedodd AS Plaid Cymru Sioned Williams: "Pan mae ymgeiswyr Llafur yn cael eu dewis ar gyfer seddi yng Nghymru, y lleiaf dylai etholwyr ei ddisgwyl yw tryloywder o ran eu barn ar faterion pwysig.
"Mae Syr Keir Starmer yn enwog am fod eisiau pob ymgeisydd Llafur i ddweud a gwneud yr un peth, a dylai Mr Bell ei gwneud hi'n glir os ydi ei ffyddlondeb i chwip y Blaid Lafur yn bwysicach na'i ryddid meddwl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru ddydd Gwener eu bod yn "falch iawn o gyhoeddi'r ddau ymgeisydd gwych鈥 ac y byddan nhw鈥檔 "gynrychiolwyr rhagorol鈥 dros eu hetholaethau.
鈥淩ydym yn falch, er gwaethaf y broses gyflym, i鈥檙 paneli gael eu ffurfio gan gynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Cymru ac aelodau lleol.
鈥淢ae Torsten yn dod 芒 chyfoeth o brofiad ym maes polisi economaidd a mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi plant.
"Fe fydd yn bencampwr go iawn i Orllewin Abertawe.
鈥淢ae gan Alex brofiad cyfreithiol helaeth ac mae鈥檔 ymgyrchydd dros faterion cyfiawnder cymdeithasol.鈥
Mae'r Blaid Geidwadol wedi cael cais am ymateb.
Yr ymgeiswyr sydd wedi'u datgan ar gyfer etholaeth Gorllewin Abertawe
- Llafur - Torsten Bell
- Y Ceidwadwyr - Tara-Jane Sutcliffe
- Plaid Cymru - Gwyn Williams
- Democratiaid Rhyddfrydol - Mike O鈥機arroll
- Reform - Patrick Benham-Crosswell
- Y Blaid Werdd - Peter Jones
Yr ymgeiswyr sydd wedi'u datgan ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd
- Llafur - Alex Barros-Curtis
- Y Ceidwadwyr - James Roberts Hamblin
- Plaid Cymru - Kiera Marshall
- Democratiaid Rhyddfrydol - I'w gadarnhau
- Reform - Peter Hopkins
- Y Blaid Werdd - Jess Ryan
- Plaid Gweithwyr Prydain - Akil Kata