Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sir Benfro fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2026
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau mai Sir Benfro fydd cartref y brifwyl yn 2026.
Roedd cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno n么l ym mis Gorffennaf eu bod am wahodd yr Eisteddfod i Lantwd, ar gyrion Aberteifi, ymhen dwy flynedd.
Fe fydd y gwaith paratoi ar gyfer yr 诺yl yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yng Nghrymych ar 10 Hydref.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, eu bod yn "edrych ymlaen at weithio mewn ffordd cwbl newydd gan ddod 芒 rhannau o dair sir at ei gilydd i greu prosiect a g诺yl sy鈥檔 ddathliad o鈥檔 hiaith a鈥檔 diwylliant".
Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd eleni, a Wrecsam fydd ei chartref y flwyddyn nesaf.
Er mai Sir Benfro fydd cartref y Brifwyl yn 2026, bydd dalgylch yr 诺yl hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Yn 么l dogfen a gafodd ei hystyried gan aelodau Cyngor Sir Penfro, mae'r safle yn Llantwd "yn cwrdd 芒 nifer o feini prawf yr Eisteddfod".
Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.
Dywedodd Betsan Moses: 鈥淩ydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithio gyda Chyngor Sir Benfro fel yr awdurdod arweiniol, ac yn falch iawn i gydweithio gyda chynghorau Ceredigion a Sir G芒r eto.
"Mae鈥檔 gyfle i ni weithio ar Eisteddfod mewn ffordd newydd, gan fanteisio ar arbenigedd t卯m o awdurdodau lleol.
鈥淒ydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal a roddodd gymaint o groeso i ni pan gynhaliwyd yr 诺yl yn Nhyddewi bryd hynny.
鈥淢ae nifer fawr o gyfleoedd ar gael, yn trefnu a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal 芒鈥檙 gwaith o gynnig syniadau ar gyfer ein cystadlaethau a rhaglen yr wythnos.
"Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a g诺yl i鈥檞 cofio yn yr ardal."
Bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn cael ei gynnal yn Theatr y Gromlech, Crymych am 19:00 ar nos Iau 10 Hydref.