Dyn yn y llys wedi gwrthdrawiad angheuol ger Nefyn

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Droy ei ddisgrifio fel dyn "annwyl iawn" oedd yn "rhan allweddol o'r gymuned yn Nefyn"

Mae dyn 60 oed - sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn ifanc ym Mhen Ll欧n trwy yrru'n beryglus - wedi ymddangos yn y llys.

Bu farw Droy Darrock-York, 20 oed o ardal Nefyn, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar y B4354 rhwng Nefyn a'r Ff么r ar 4 Mehefin 2022.

Fe wnaeth Roger Brenninkmeyer o Gilgwri ymddangos o flaen ynadon Caernarfon ddydd Iau.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon ar 12 Medi.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y groesffordd rhwng Fron a Phentre-uchaf ar 4 Mehefin

Cafodd Droy ei fagu ym Morfa Nefyn, lle'r oedd "yn rhan allweddol o'r gymuned".

"Roedd Droy yn ddyn hapus, hyderus a gweithgar oedd yn gyfeillgar 芒 phawb," meddai ei deulu.

"Roedd pawb yn yr ardal yn ei adnabod, ac mi oedd o'n mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau a'i deulu, ac roedd pob tro gw锚n hyfryd ar ei wyneb."

Roedd mewn perthynas hapus gyda'i gariad, meddai'r teulu, "oedd yn disgwyl ymlaen at eu gwyliau cyntaf gyda'i gilydd".

Roedd wedi cwblhau cwrs gosod briciau yng Ngholeg Dolgellau, a bu hefyd yn aelod o Gadetiaid y Fyddin.