C么r Only Boys Aloud 'i ddarfod heb godi 拢150,000'

Ffynhonnell y llun, Only Boys Aloud

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y c么r ei sefydlu yn 2010

Mae Only Boys Aloud yn dweud bod dyfodol y c么r ac elusen Aloud yn ansicr yn sgil heriau ariannol.

Yn 么l y c么r, mae angen iddyn nhw godi 拢150,000 os ydyn nhw am oroesi.

Cafodd Only Boys Aloud ei sefydlu ar gyfer Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn 2010, a daeth i amlygrwydd wedi eu llwyddiant ar raglen Britain's Got Talent yn 2012.

Bellach, mae 150 o fechgyn yn aelodau o 11 o gorau ar draws Cymru, gydag ymarferion yn cael eu cynnal yn wythnosol.

Maen nhw wedi lansio ymgyrch ar-lein i godi arian er mwyn ceisio codi'r 拢150,000.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae cyn-aelod Caradog Jones yn bwriadu mynd ymlaen i astudio gradd meistr mewn cerddoriaeth

Mae Caradog Jones yn wreiddiol o Gaernarfon, ac fe ymunodd ag Only Boys Aloud pan sefydlodd y c么r gangen yng ngogledd Cymru.

Mae ganddo atgofion melys o'i amser yn y c么r.

"Y profiad gorau ges i oedd mynd i Lorient i'r 糯yl Ban Geltaidd efo'r academi," meddai.

"Hwnna oedd y profiad dwi wastad yn cofio."

Dywed Caradog, sy'n bwriadu cychwyn gradd meistr mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, bod y c么r wedi ei ysbrydoli i barhau gyda鈥檌 addysg.

鈥淒wi ddim yn meddwl byswn i wedi [astudio cerdd] heb y profiad dwi wedi cael efo Only Boys Aloud a be' mae hynna wedi galluogi i mi wneud.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Dywed Caradog fod Only Boys Aloud wedi cynnig cyfleoedd bythgofiadwy i aelodau, fel perfformio yn yr 糯yl Ban Geltaidd yn Ffrainc

Ond mae Caradog yn credu fod yr effaith ar aelodau yn mynd tu hwnt i gyfleoedd cerddorol, gan groesawu bechgyn o bob cefndir.

Dywedodd: 鈥淒wi鈥檔 meddwl, i fi, mae鈥檔 bechod achos yr effaith mae鈥檔 cael ar bobl eraill - dim pobl sydd wedi mynd ymlaen i astudio cerdd.

鈥淒oedden nhw ddim yna am y canu rili, roedden nhw yna am yr ochr gymdeithasol, bod nhw'n gwybod bo' nhw'n gallu mynd yna - rhywle saff iddyn nhw fynd.

"Nhw oedd y bobl oedd yn cael y mwyaf allan o Only Boys Aloud.

"Bysa lot o'r hogiau yna ddim 'di cael y cyfle yna i gael gwersi cerddorol 'na dim byd fel 'na.

"Dwi'n meddwl fod dod i Only Boys Aloud a chael y cyfleoedd yn... yn gyfle iddyn nhw ddianc am ddwy awr yr wythnos.

"Felly mae'r ffaith bod Only Boys Aloud yn cynnig cyfleoedd anhygoel, am ddim, mor werthfawr i hogiau ifanc."

'Newid fy mywyd'

Mae'r c么r yn dweud bod dros 6,500 o fechgyn wedi bod yn aelodau dros y blynyddoedd - gydag actorion a chantorion fel Callum Scott Howells a Tom Hier yn eu plith.

Dywedodd Tom Hier, sydd wedi perfformio mewn sawl cynhyrchiad yn y West End ac sy'n aelod o gr诺p Welsh of the West End, nad yw'n "credu fod pobl yn deall mai fel elusen y mae Only Boys Aloud yn gweithredu".

"Nes i ymuno ag Only Boys Aloud o'r dechrau un. Mae o'n gymaint mwy na ch么r.

"Mae'n frawdoliaeth oedd yn cynnig cyfeillgarwch, pwrpas a chyfleoedd wnaeth newid fy mywyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r actor adnabyddus Callum Scott Howells yn un o gyn-aelodau'r c么r

Ychwanegodd Tom Hier: "Bellach, rydw i'n ddigon ffodus i fod yn perfformio fel bywoliaeth.

"Ond dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny'n wir oni bai am yr hyder a'r sgiliau nes i fagu fel aelod o Only Boys Aloud.

"Er llwyddiant arbennig y c么r dros y blynyddoedd, mae angen help arnom ni, ac mae costau cynyddol yn golygu ein bod ni'n wynebu heriau ariannol.

"Os yw'r c么r am oroesi, yna mae angen i ni godi 拢150,000.

"Byddai鈥檙 arian yma yn ein galluogi i barhau i gynnal ymarferion fydd yn rhoi cyfle i fechgyn Cymru ganu am genhedlaeth arall."

Gohirio gweithgareddau

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol elusen Aloud, Carys Wynne-Morgan: "Ry'n ni, fel cymaint o elusennau eraill, yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.

"Mae'r hinsawdd economaidd, a'r sefyllfa o ran cyllidebau wedi ein taro'n galed, ac er gwaethaf ymdrechion ein t卯m ymroddgar a gwybodus, dy'n ni ddim wedi gallu codi'r arian sydd ei angen arnom ni i gynnal ein gwaith hanfodol ar hyd Cymru eleni.

"O ganlyniad, ry'n ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i ohirio ein gweithgareddau am ddim i bobl ifanc, a haneru maint ein t卯m.

"Yn ystod y cyfnod yma ry'n ni'n benderfynol o ailffocysu ac ailstrwythuro Aloud er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor."