| |
|
|
|
| | | |
Somaliaid yn Nhrebiwrt |
|
Y gymuned Somali
© 大象传媒 | Y gymuned Somali yng Nghaerdydd sydd â’r nifer uchaf yn y DU o Somalïaid a aned ym Mhrydain. Cawsant eu denu i Gaerdydd yn wreiddiol fel morwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn fuan wedi agor camlas Suez, i weithio yn y dociau llewyrchus. Daeth y dynion ifanc yma fel morwyr, nid fel ffoaduriaid na gweision, wedi eu gyrru gan yr awydd i ennill arian i brynu mwy o dda byw nôl yn Somalia. Ymgartrefodd rhai ohonyn nhw yma a phriodi gwragedd lleol, er i eraill ddychwelyd adref o bryd i’w gilydd i ymweld â’u teuluoedd, gan fyw mewn lletyau yn ystod eu hamser ar y tir. Câi’r lletyau yma’u rhedeg gan Somaliaid ac roedden nhw’n cynnig i’r morwyr ar ymweliad hwylustod iaith ac arferion cyfarwydd.
Oherwydd presenoldeb trefedigol Prydain yn Somalia roedd yn bosibl i forwyr weithio a byw yn y DU. Fel arfer roedd digon o waith ar gael ar gyfer y morwyr yn y dociau, ac yn fwy diweddar yn y diwydiant dur, er eu bod yn aml yn llenwi swyddi nad oedd gweithwyr gwyn eu heisiau, unai ar yr agerfadau crwydrol lle roedd amodau gwaith yn galed, neu yn y llynges fasnach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd y morwyr Prydeinig ei symud i’r Llynges Frenhinol. Nid oedd yn fywyd hawdd, a gallai cyfnodau o argyfwng economaidd olygu trychineb: gwelodd y Dirwasgiad Mawr gannoedd o forwyr Somali’n marw o newyn oherwydd prinder gwaith.
Khat;/Quadd dail gwyrdd sy’n cael eu cnoi’n ffres – caiff ei ddefnyddio fel ‘defnydd adloniadol’; mae hwn yn arferiad traddodiadol sy’n tanlinellu’r gwahaniaeth rhwng crefydd a diwylliant yn Somalia. Mae Islam yn dweud na chewch gymryd unrhyw beth sy’n pylu’r meddwl, ond mae cnoi Quadd yn draddodiad diwylliannol. Mae dadl yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ynglŷn â’r arferiad gan y gall y defnydd o’r cyfnerthwr naturiol hwn gael effeithiau niweidiol ar fywyd teuluol a chymunedol. |
| Gyda chychwyn y rhyfel cartref yn Somalia yn y 1980au, cafodd morwyr o’r gymuned sefydledig hon ganiatâd i ddod â’u teuluoedd draw. Mae cymunedau Somali mawr hefyd yn Llundain a Manceinion ond yr un yng Nghaerdydd yw’r hynaf – ‘fel ail gartref i’r bobl yma’ yn ôl Adbi Sugulle, “mae yna ddihareb Somali sy’n dweud ‘Caerdydd yw fy nghartref’”.
Mae crefydd yn rhan hanfodol o fywyd Somali. Does dim lle i gyfaddawdu yn y grefydd moslem suni, er bod ambell wrthdrawiad rhwng crefydd a diwylliant – mae’r boblogaeth Somali yn y DU yn fwy tebygol o ddathlu penblwyddi, sydd ddim fel arfer yn digwydd yn Islam. Mae gweddïo ar ddydd Gwener yn bwysig iawn. Mae nifer o bobl ifanc a theuluoedd yn mynd i’r Mosg Al-Noor; cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu ar safle Mosg Stryd Peel. Cafodd Mosg Stryd Peel ei adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond fe’i chwalwyd fel rhan o ailddatblygiad Trebiwt ym 1988.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|