| |
|
|
|
| | | |
Somaliaid yn Nhrebiwrt |
|
Am Abdi Sugulle:
© 大象传媒 | Daeth Abdi Sugulle, a aned yn Somalia, i’r DU ym 1990 yn 10 oed. Ymsefydlodd ei deulu ym Manceinion lle roedd ei chwaer eisoes yn byw. Roedd ganddo naw brawd a chwaer – teulu mawr hyd yn oed yn ol safonau Somali, gan mai pump neu chwech o blant oedd yn arferol. Mae nawr yn byw gyda’i wraig sy’n un o Somaliaid Caerdydd ac mae’n gweithio yn y Red House.
Pan gyrhaeddodd Abdi y DU am y tro cyntaf doedd e ddim yn siarad Saesneg ac mae’n credu ei bod wedi cymryd rhyw bum mlynedd i ddysgu’r iaith yn iawn. Mae’n cydnabod pan mae’n gweithio ei fod yn ysgrifennu yn Saesneg ond mae’n dal i feddwl mewn Somali, er bod nifer o eiriau na ellir eu cyfieithu’n llythrennol.
Mae nifer o Somaliaid yn parhau i deithio nol ac ymlaen i Somalia, yn enwedig y genhedlaeth hŷn a’r plant, sy’n gallu cymryd mantais o’r gwyliau haf hir, ond nid yw Abdi wedi bod yn ôl ers iddo gyrraedd Prydain.
Am y ‘Red Sea House’
Mae Abdi’n gweithio fel Rheolwr Cynllun yn ‘Red Sea House’, cynllun tai gwarchodedig ar gyfer hynafiaid Somali gaiff ei reoli gan Gymdeithas Tai Taf. Cafodd ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, a’r Cyngor Cydraddoldeb Hiliol.
© 大象传媒 | Cafodd ‘Red Sea House’ ei gwblhau ym Mis Medi 2002, ac mae’n cynnig cartref parhaol i 15 o forwyr Somali sydd wedi ymddeol mewn unedau hunangynhaliol. Roedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn gwasanaethu yn y Llynges Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu nifer yn ymladd ochr yn ochr gyda’r milwyr o Brydain ac fe’u gwobrwywyd â medalau am eu gwasanaeth. Cafodd y cyfadeilad ei enwi ar ôl y Môr Coch, sydd yn union i’r gogledd o Somalia, gan Mr Ahmed Mohammed, morwr a ddaeth i Gaerdydd pan oedd yn 19 ac sydd nawr yn byw yno.
Cafodd ‘Red Sea House’ ei adeiladu i gymryd lle’r lletyau a gynigiwyd yn Stryd Angelina am genedlaethau ac a chwalwyd yn ystod ailddatblygiad yr ardal gan Gyngor Caerdydd. Câi’r lletyau eu rhedeg gan Somalïaid, ac roedden nhw’n cynnig lle cartrefol i nifer o westeion. Mae’r genhedlaeth hŷn o forwyr wedi eu cydgysylltu â ffydd a chyfeillgarwch – pan gyrhaeddon nhw Gaerdydd, yr unig beth oedd ganddyn nhw oedd ei gilydd. Erbyn hyn mae gan Somalïaid Caerdydd ffrindiau a theulu yn ymestyn dros nifer o genedlaethau.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|