大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Coch Bach y Bala – ‘Yr Houdini Cymreig’

Naid Troseddwr Nodedig i Ryddid...

Daliodd gweithgareddau Jones ddychymyg y cyhoedd, ac aeth cyfryngau'r cyfnod ati i roi arlliw cyffrous i'w weithgareddau a rhoi cyhoeddusrwydd iddyn nhw. Mae'r adroddiad canlynol yn y 'North Wales Times' yn disgrifio'i ddihangfa olaf, a'r enwocaf:
DIHANGFA GYFFROUS O GARCHAR RHUTHUN
"Dihangodd John Jones o Garchar Rhuthun fore dydd Mawrth mewn dull hynod gyffrous, ac ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon mae’n dal â'i draed yn rhydd. Llwyddodd i ennill ei ryddid o ganlyniad i ddewrder di-ildio, cryn graffter ac ystwythder hynod... mae rhai'n ystyried bod 'Coch Bach' yn arwr; mae ei berfformiad yn wir yn dangos dewrder. Digwyddodd y ddihangfa rhwng pedwar a phump o'r gloch y bore, cyn i'r rhan fwyaf o'r gwarcheidwaid ddechrau ar eu gwaith... Achosodd dewrder ei ddihangfa, a'r cyflymdra y gadawodd gyffiniau'r carchar gryn benbleth i awdurdodau'r carchar ac i'r heddlu." North Wales Times, 4 Hydref 1913
Roedd 'Coch Bach' wedi bod yn disgwyl cael ei symud i Garchar Stafford i gwblhau dedfryd o dair blynedd am dorri i mewn i adeiladau. Ar y noson benodedig, gadawodd ei gell trwy dwnelu trwy wal y gell, a thrwy ddefnyddio rhaff wedi ei chreu o ddillad gwely'r carchar, dringo dros doeau'r capel a'r gegin, ac yn y diwedd, ddianc dros wal y carchar.

Bu Jones â'i draed yn rhydd am chwe niwrnod cyn cael ei ddal ar Stad Nantclwyd, rai milltiroedd o Ruthun. Cafodd ei saethu yn ei goes gan un o'r rhai oedd yn ei erlid, Reginald Jones-Bateman, mab 19 oed i dirfeddiannwr a oedd yn troi'n fwyfwy amhoblogaidd. Roedd John Jones yn 60 mlwydd oed, a bu farw o sioc a gwaedlif o ganlyniad i'w anaf. Cafodd Jones-Bateman ei gyhuddo o ddynladdiad, ond yn y pen draw cafodd y cyhuddiadau yn ei erbyn eu gollwng.

Er ei holl ddrygau, roedd yn ffigwr poblogaidd, ac achosodd amgylchiadau ei farwolaeth gryn anniddigrwydd yn yr ardal. Cafodd cardiau post yn dangos llun o'i angladd, a'r lleoliad lle cafodd ei saethu, eu masgynhyrchu a'u gwerthu. Efallai nid cymaint fel 'memento mori' ond fel y tystiolaeth olaf un, fel a brofwyd gan y camera, bod y 'Coch Bach' bellach wedi cael ei gaethiwo mewn un lle.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
South-West Scotland
Sawney Bean
Related Stories
The gibbetting of Spence Broughton
A gentleman bare-knuckle fighter
The Gruesome Tale of Sawney Bean




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy