| |
|
|
|
| |
© Priordy Mynwy
|
| | |
Sieffre O Fynwy - Crêwr Chwedlau |
|
Yr 'Historia regum Britanniae' neu 'Hanes Brenhinoedd Prydain' fel y'i gelwid yn gyffredinol, a ymddangosodd tua 1138, yw un o'r llyfrau mwyaf dylanwadol i ddod allan o Brydain erioed. Cyfunodd y llyfr nifer o fythau a chwedlau o Hanes Cymru a Phrydain, gan gyflwyno stori sy'n olrhain hanes gwreiddiau Prydain o Brut, gor-wyr Acheaus yn 1100 CC, i fuddugoliaeth olaf y Sacsoniaid a marwolaeth Cadwaladr yn 689 OC.
Yn gynwysedig yn y gronoleg yma mae chwedlau Myrddin a'r Brenin Arthur, ac er eu bod wedi eu crybwyll gan haneswyr cynt, doedden nhw ddim wedi eu rhoi mewn cyd-destun nac wedi ymhelaethu ar yr hyn mae Sieffre'n ei ddweud amdanyn nhw. P'run ai trwy fwriad neu trwy ddiffyg y digwyddodd hynny, prif orchest Sieffre oedd poblogeidio Chwedl y Brenin Arthur.
Mae 186 llawysgrif o'r Historia wedi goroesi, mae 48 yn gyflawn, ac mae dau yn dyddio nôl i'r 12ed Ganrif. Mae'r ffaith bod cynifer wedi goroesi yn dangos faint o gopïau oedd ar gael ar yr adeg y cafodd ei ysgrifennu.
Er hynny, dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ei awdur, Sieffre o Fynwy - dim ond ychydig o fanylion wedi eu casglu o gofnodion swyddogol, digon i gadarnhau ei fodolaeth. Bu'n dyst i rhyw chwech o ddogfennau yn Rhydychen rhwng 1129 a 1151, ac mewn dwy o'r rhain caiff ei alw'n magister, yn awgrymu ei fod wedi bod yn dysgu mewn ysgol neu neuadd yn y brifysgol wreiddiol.
Mae ei enw'n ymddangos gydag un Walter, archddiacon Rhydychen, Prifathro Coleg St George, gan awgrymu ei fod wedi bod yn ganon seciwlar yno. Mae cofnodion pellach yn dangos ei fod wedi ei urddo'n offeiriad ym 1152, ac yn esgob Llanelwy ychydig ddyddiau'n ddiweddarach; roedd hefyd yn un o'r esgobion oedd yn dyst i Gytundeb Westminster ym 1153; ac yn olaf mae cronicl Cymreig yn cofnodi ei farwolaeth yn 1155.
Words: Brynley F Roberts
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|