大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - De Ddwyrain Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 De Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Sieffre O Fynwy - Crêwr Chwedlau

A yw llyfr Sieffre yn hanes gwirioneddol, beth bynnag yw hwnnw?

Mynnodd Sieffre, yn y cyflwyniad i'w lyfr, ei fod yn gwneud dim mwy na chyfieithu hen lyfr yn yr iaith Brydeinig a ddaeth allan o Lydaw neu Gymru trwy law Walter, archddiacon Rhydychen. Ond os rhoddodd Walter unrhyw ddefnydd ysgrifenedig i Sieffre, mae'n annhebygol iawn mai dyma'r unig ffynhonnell ac ni allai fod yn debyg i'r 'Historia' a oedd â sawl ffynhonnell lenyddol - clasurol, Beiblaidd a hanesyddol.

Mae naratif manwl a chynhwysfawr yr Historia yn unigryw ac ni ellir cadarnhau'r rhan fwyaf o'r hyn mae'n ei gynnwys trwy ddefnyddio unrhyw ddogfen arall. Mae'n gyfansoddiad llenyddol sydd wedi ei gynllunio a'i strwythuro'n grefftus, gyda dechrau, uchafbwynt a diwedd gyda llinyn arian naratif sy'n caniatáu i'r storïwr dawnus hwn i roi penodau adloniadol i mewn er mwyn bywiocau'r cyfanwaith, fel bod y gwaith yn dangos tystiolaeth mai un awdur fu wrthi, sef Sieffre o Fynwy.

Yn ei gyflwyniad mae Sieffre'n dweud mae ei bwrpas wrth ysgrifennu (neu gyfieithu) yw cyflwyno hanes Prydain cyn i'r Saeson ddod, cyfnod roedd haneswyr Saesnig a Normanaidd yn cael trafferth i daflu unrhyw oleuni arno. Wedi sylwi ar fwlch yn y farchnad, cododd Sieffre i'r sialens trwy greu hanes dychmygol gwych, gan ddefnyddio neu addasu unrhyw ffynonellau dilys ag y gallai, gan dynnu ar lên gwerin a chwedlau Cymreig a Phrydeinig wedi eu cyfuno â'i ddarllen ei hun, gan ddyfeisio'r gweddill. Weithiau mae'n ysgrifennu'n eironig, weithiau gyda hiwmor tafod yn y foch, ond yn aml gydag argyhoeddiad am faterion cyfoes - oferedd gwrthdaro brawdol a rhyfel cartref, am arwriaeth a brad, am frenhiniaeth, cyfiawnder a rhyddid, a thrwy'r cyfan i gyd mae yna gred yn nodweddion moesol llywodraeth. Mae'n ceisio ysgrifennu fel hanesydd cyfoesol; efallai ei fod yn 'ffugiwr' ond mae'n ysgrifennu am wirioneddau gwaelodol.

Yn bennaf ôl, mae Sieffre'n adlewyrchu, yn strwythur ac amwysedd ei lyfr, y themâu hynny sy'n uno'r hanes brodorol, chwedlonol, Cymreig, sydd yn ymwneud ag undod Prydain, sofraniaeth y Prydeinwyr, eu colli goruchafiaeth ac undod, a'r broffwydoliaeth y byddai'r rhain yn cael eu hadfer un diwrnod yn y dyfodol. Ni chreodd Sieffre'r chwedl Arthuraidd, ond fe roddodd iddi ei mynegiant mwyaf rhesymegol a statws newydd yn ei chyd-destun Lladin dysgedig.

Words: Brynley F Roberts

Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Bradford
Related Stories
Home to Lord of the Rings?
Ossian: Fact or Fiction
Jersey - The fabled life of St Helier




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy