| |
|
|
|
| | | |
Sieffre O Fynwy - Crêwr Chwedlau |
|
© Priordy Mynwy | Mae 'Hanes Brenhinoedd Prydain', ynghyd â'i ragflaenydd 'Proffwydoliaethau Myrddin', a gafodd ei gyhoeddi ychydig ynghynt, yn honni ei fod yn naratif o hanes Prydain, a gaiff ei gynrychioli gan lwyddiannau a methiannau y rhai oedd yn llywodraethu.
Mae'r penodau cychwynnol yn disgrifio gwreiddiau Droeaidd-Rhufeinig y Prydeinwyr a'u dyfodiad, rhywbryd yn niwl hanes i ynys Albion, a ailenwyd yn Britannia gan Brutus, y brenin cyntaf. Mae'r ynys yn cael ei rhannu rhwng ei dri mab: yr hynaf, Locrinus, yn cael Loegrina (neu 'Lloegr' erbyn hyn) gyda'r brif ddinas, Llundain; cafodd Albanactus Albany (yr Alban); a chafodd Camber Cambria (Cymru). Felly mae yna dair teyrnas ond un goron,- sef Llundain.
Mae Sieffre'n datgelu hynt nifer o frenhinoedd, a rhai breninesau, dyfodiad y Rhufeiniaid, dyfodiad y Saeson a'r rhyfeloedd a ddilynodd nes eu bod yn llwyddo i gipio sofraniaeth, nid yn gymaint trwy nerth arfau ond trwy ysgelerder moesol a ffolineb y Prydeinwyr; cymaint felly nes i'w brenin olaf, Cadwaladr, wrth gydnabod mai dyma ewyllys Duw, ddianc i'w alltudiaeth yn Llydaw, gan farw yn Rhufain yn 689.
Ond nid yw popeth wedi ei golli gan fod Myrddin wedi proffwydo i Vortigern, y brenin diniwed a gafodd ei dwyllo ac a ganiataodd yr ymsefydliadau Saesnig cyntaf, y byddai un o dras Vortigen yn dychwelyd i adfer sofraniaeth Prydeinig trwy'r wlad.
Nid ar hap y lleolir y broffwydoliaeth hon yng nghanol y llyfr, yn union cyn dyfodiad y Saeson. Roedd o gryn arwyddocâd yn y darlleniad Cymraeg o'r Historia, gan fod yr hyn a oedd i rai darllenwyr yn ddirywiad moesol a'r gorchfygiad o'r Prydeinwyr (a'u disgynyddion Cymreig yn yr un cyfnod) wedi dod i eraill yn sail i obaith ac ysbrydoliaeth ar gyfer y dyfodol.
Words: Brynley F Roberts
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|