| |
|
|
|
| |
© 大象传媒
|
| | |
Pryce-Jones: Arloeswr y Diwydiant Archebu Drwy’r Post |
|
Gellir rhannu’r diwydiant gwlân oedd yn datblygu i 3 cyfnod. Yn ystod y cyntaf, cyfnod y diwydiannau cartref, roedd cardio (gwneud i’r ceinciau o wlân i gyd orwedd i’r un cyfeiriad cyn eu nyddu’n edafedd), nyddu a gwehyddu gwlân yn ddifyrrwch ar gyfer misoedd y gaeaf, ac fe dreuliwyd yr haf yn gweithio ar y ffermydd. Yn y 18ed Ganrif gallai’r rhan fwyaf o fythynwyr fforddio troell, ond wrth i dechnoleg symud ymlaen ac i fframiau gwau ddod yn fwy cymhleth, cafodd cardio â llaw ei ddisodli gan beiriant cardio, gan orfodi’r diwydiannau cartref i symud i’r ail gyfnod.
Yn ystod cyfnod y siopau gwehyddu datblygodd y Drenewydd yn un o ganolfannau pwysicaf y diwydiant gwlân, a chafodd marchnad gwlanen y Trallwng, a werthai nwyddau lleol wedi eu gwneud o wlân, ei disodli gan un yn y Drenewydd. Talai gwehyddion rent afresymol i’r gwneuthurwyr gwlanen i gael byw ar y lloriau isaf o’u adeiladau tri neu bedwar llawr; ar y lloriau uchaf fe geid peiriannau oedd yn fwyfwy soffistigedig, tebyg i beiriannau nyddu, mewn gweithdai mawr agored. Cynyddodd poblogaeth y dref fwy na phum gwaith mewn 60 mlynedd, gan gyrraedd 4550 erbyn 1831, gan roi Caerdydd yn y cysgod, gan mai dim ond 1870 yn ystod y cyfrifiad cyntaf ym 1801. Ond nid oedd popeth yn hawdd i’r Drenewydd, gan i gyfnodau o ddirwasgiad gael effaith andwyol ar dwf a ffyniant y diwydiant lleol. Ym 1838 bu’r Drenewydd yn gartref i gyfarfod cyntaf y Siartwyr yng Nghymru, gyda’r gweithwyr yn mynnu amodau gwell a hawliau dinesig; nid cais afresymol i’r rhai gâi eu talu mewn tocynnau y gallen nhw ddim ond eu gwario yn siop y cynhyrchwyr!
Yn ystod y trydydd cyfnod gwelwyd datblygu ffatrïoedd mawrion yn y Drenewydd. Wrth i’r mentrau a yrrwyd gan stêm ledaenu bu i’w rhagflaenwyr oedd â pheiriannau a yrrwyd gan ddŵr gau’n raddol. Dioddefodd y diwydiant gwlân yn Sir Drefaldwyn oherwydd cystadleuaeth oddi wrth y trefi tecstilau yn Swydd Gaerhirfryn a Gorllewin Swydd Efrog, lle cynhyrchwyd gwlanen yn rhatach. Cafodd y dirwasgiad ei leddfu rhywfaint ar ôl agoriad y rheilffordd rhwng Llanidloes a’r Drenewydd ym 1859, a wellodd ei gysylltiadau trafnidiaeth. Yn y flwyddyn hon gadawodd Pryce Pryce-Jones, a anwyd yn Llanllwcharian, y busnes defnyddiau lle bu’n gweithio ers roedd yn 12 oes er mwyn sefydlu ei siop ddillad ei hun yn y Drenewydd.
Words: Carolyn Cowey
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|