| |
|
|
|
| | | |
Pryce-Jones: Arloeswr y Diwydiant Archebu Drwy’r Post |
|
© The Powysland Museum, Welshpool | Roedd hon yn siop ddillad wahanol iawn. Anfonai Pryce-Jones batrymau a thaflenni o Wlanen Gymraeg a ddarparwyd gan wneuthurwyr a masnachwyr gwlân lleol i foneddigion lleol. Byddai eu archebion wedyn yn cael eu hanfon, yn gyntaf ar goets fawr ac yna ar drên. Roedd hyn yn ffordd hwylus i bobl mewn lleoliadau anghysbell i siopa, heb orfod rhoi’r amser na’r ymdrech i deithio i’r dre. Roedd y busnes yn llwyddiant ac fe enillodd nifer o wobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Erbyn 1880 roedd ganddo dros 100,000 o gwsmeriaid, yn cynnwys Florence Nightingale a’r Frenhines Victoria, ac fe ddefnyddiai eu henwau’n aml mewn defnydd hysbysebu.
© The Powysland Museum, Welshpool
| Wrth i’r rhwydwaith rheilffordd ehangu, felly hefyd y bu i’w fusnes ehangu. Gallodd werthu Gwlanen Cymru i weddill Ewrop, America ac yn y pen draw i Awstralia. Darparodd cwmni y ‘London and North Western Railway Company’ 3 fan cario parseli ar ei gyfer, ar hyd y linell rhwng y Drenewydd ac Euston ac roedd gallu addo y byddai nwyddau yn cyrraedd y diwrnod canlynol yn y rhan fwyaf o Loegr. Wedi symud i adeiladau mwy unwaith, symudodd eto ym 1879 ac adeiladodd y Warws Genedlaethol Gymreig, ger gorsaf reilffordd y Drenewydd. Ym 1895 adeiladodd ffatri gyferbyn ac ym 1901 fe ychwanegodd ei swyddfa bost ei hun er mwyn ei helpu ymdopi â’i fasnach cynyddol. Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion ym 1887 pan gafodd ei urddo’n farchog gan y Frenhines Victoria.
Words: Carolyn Cowey
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|