| |
|
|
|
| | | |
Bwcle – Llestri a Llafar |
|
Pwll Glo Mynydd Bwcle – mae’r hen simneiau a llinellau’r tramiau yn dal i’w gweld o’r llwybrau cerdded
trwy garedigrwydd Cymdeithas Treftadaeth Bwcle © Buckley Heritage Society |
Mae Bwcle heddiw yn dref o tua 15,000 o bobl, ac mae yna sefydliad wedi bod ar neu yn agos i’r safle bresennol ers yr Oes Efydd. Cafodd y dref ei dogfennu am y tro cyntaf ym 1284 fel ‘porfelaeth Maenor Ewlo’, a thua’r adeg yma cafodd cloddio am lo a gwneud llestri eu cofnodi yn yr ardal.
Caiff Bwcle ei amgylchynu gan, ac mae’n cynnwys, nifer o gaenau o lo, sydd mor agos i’r wyneb nes ei bod yn hawdd eu cyrraedd heb gloddio siafftiau dwfn, a gellid eu casglu o dyllau bas trwy godi’r glo i fyny mewn basgedi. Daethpwyd o hyd i glai llosg caled wrth ymyl y caenau glo, a châi hwn ei gasglu ar ôl hindreulio yn yr elfennau. Daethpwyd o hyd i glai potiau gludiog ar y wyneb ac mewn caeau cyfagos.
Roedd y cyfuniad hwn o gleiau oedd ar gael yn berffaith i wneud llestri pridd yn rhad. Roedd plwm yn elfen bwysig arall mewn gwydro’r llestri, a chafodd ei gloddio ers cyfnod y Rhufeiniaid yn Helygain a Rhosesmor gerllaw.
Roedd Bwcle mewn safle gwych i allforio nwyddau, gan fod sawl nant yn tarddu yn ac o gwmpas y dref, ac wedyn yn llifo i Foryd yr Afon Ddyfrdwy. Ffurfiodd y nentydd hyn sianeli yn y tywod, ac ar lanw uchel gallai llongau hwylio i fyny’r rhain, casglu eu llwythi o lestri pridd a glo, a dychwelyd i’r mor.
Câi crochenwaith hefyd ei allforio dros dir i farchnad Caer ar hyd y ‘Filltir Fudur’ – yr enw lleol am y ffordd o Gaer i Fwcle – ac ar ôl 1866, ar y rheilffyrdd i weddill Prydain.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|