|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Bwcle – Llestri a Llafar |
 |
Denodd diwydiannau Bwcle weithwyr ymfudol o’r 12ed Ganrif ymlaen, rhai o’r rhai cyntaf oedd trefedigaeth o fwynwyr a chrochenwyr a oedd yn byw ymhlith y Cymru brodorol ar Fynydd Bwcle. Wedi eu taflu at ei gilydd fel cymdogion a chydweithwyr mewn amgylchedd anghysbell, datblygodd pobl Bwcle eu tafodiaith eu hunain a oedd yn Saesneg yn bennaf, gan fenthyg nifer o eiriau ac ynganiadau Cymraeg.
Roedd cloddfeydd, gweithiau briciau a chrochendai gâi eu rhedeg gan deuluoedd wedi eu hen sefydlu erbyn cyfnod Elizabeth I, a dechreuodd Bwcle ddenu mwy o bobl i ymgartrefu yn yr ardal. Ym 1737, cychwynnodd Jonathan Catterall y Diwydiant ‘Buckley Firebrick’, a dynnodd bobl i mewn o leoedd mor bell â Dyfnaint, Cernyw ac Iwerddon, yn ogystal â’r siroedd cyfagos – Sir Gaer, Swydd Stafford, Swydd Gaerhirfryn a Sir Gaerefrog.
 © Buckley Heritage Society | Dechreuodd tafodiaith Bwcle ddatblygu trwy genedlaethau o fewnfudwyr a brodorion, gan fenthyg geiriau ac ymadroddion oddi wrth ei gilydd, a’i berwi i lawr i gynhyrchu geirfa a oedd yn unigryw i’r ardal.
Blwch Ffeithiau: Rhestrodd Dennis Griffiths, oedd â’i lyfr ‘Talk of My Town’ (1969) yn astudiaeth o dafodiaith Bwcle, nifer o’r geiriau a’r ymadroddion a oedd yn dal yn fyw yn y cof, er enghraifft:
“Above a bit” – Cryn dipyn, sylweddol
“Chancechile” – Plentyn anghyfreithlon
“Kabe” – Cwyno
“Llechy” – Ffug; cynffongar; credadwy (Cymraeg: “llechu” )
“O’er the ‘ills – Roedd “send ‘im o’er the ‘ills” yn golygu “anfon ef i Wallgofdy Dinbych”
“Sennabund” – Yn rhwym
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|