Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth
Mae’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu’r pethau gwych mae pobl yn eu cyflawni i wneud ein cymunedau’n lleoedd gwych i fyw ynddynt.
Enwebiadau
Gallwch ddweud wrthym pwy yw’ch arwr yn eich cymuned chi pan fydd yr enwebiadau’n agor am 19:00 ar 24 Chwefror 2025. Rhaid i chi gyflwyno eich enwebiadau erbyn 17:00 ar 31 Mawrth 2025.

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a bydd gwobrau’n cael eu rhoi yn yr wyth categori canlynol:
- Gwobr Gwirfoddoli
- Gwobr Arwr Ifanc
- Gwobr Cymydog Arbennig
- Gwobr Egnïol
- Gwobr Anifeiliaid
- Gwobr Werdd
- Gwobr Codi Arian
- Gwobr Gr诺p Cymunedol
Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod ddechrau’r haf a byddant yn cael eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo ar 20 Medi 2025 yng Nghaerdydd. Cliciwch yma i weld rheolau’r gwobrau a’n hysbysiad preifatrwydd yn llawn.
Dilynwch hynt y gwobrau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #大象传媒GGwneudGwahaniaeth