Plu
Brawd a dwy chwaer o Eryri yw’r triawd Plu, ac mae eu caneuon gwerinol llawn harmoni, ynghyd â’u defnydd o’r gitâr acwstig, awtodelyn, melodica, piano ac acordion, yn taflu golau cyfoes ar ddylanwadau traddodiadol.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau : |
Elan Mererid Rhys (Llais/Autoharp), Marged Eiry Rhys (Llais/Accordion/Piano/Melodica), Gwilym Bowen Rhys (Llais/Guitar/Bouzouki/Mandolin)
|
Fel eu cyfoedion daearyddol a cherddorol, Cowbois Rhos Botwnnog a Georgia Ruth, maent yn rhoi bywyd newydd i synau sydd wedi cael eu trosglwyddo drwy’r cenedlaethau ers cyfnod y Mabinogi. Ond does dim yn eu cerddoriaeth sy’n cael ei lesteirio gan or-barchedig ofn. Mae eu caneuon gwreiddiol a'u dehongliadau o ganeuon gwerin Cymru yn cyrraedd yr uchelfannau’n ddiymdrech fel y boncathod dros fryniau Bethel, ger Caernarfon, lle y maent yn byw.
Ac unwaith eto, yr harmonïau! Pan mae Elan, Marged a Gwilym Rhys yn canu gyda’i gilydd ar eu sengl newydd rhapsodig ‘Arthur', mae’r canlyniad yn wefreiddiol.
(Gan Adam Walton, cyflwynydd ´óÏó´«Ã½ Radio Wales)