Kizzy Crawford
Mae Kizzy Meriel Crawford o Ferthyr Tudful wedi cyflawni llawer yn barod yn ystod ei 18 mlynedd.
Prin iawn yw'r adegau hynny pan ddaw artist â'r fath grebwyll cerddorol naturiol, diymdrech a hunanfeddiannol i’r amlwg fel bod yn rhaid i ni, sy’n gweithio'n feunyddiol yn chwilio am gerddorion newydd a diddorol, sefyll yn ôl a diolch i’r nef. Enillodd wobr Canwr-Cyfansoddwr Gwreiddiol Arts Connect yn 2012. Mae wedi perfformio’n fyw gerbron cannoedd o filoedd ar deledu Cymru, ac mae wedi chwarae yn WOMEX pan gafodd yr ŵyl ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2013. Mae hefyd wedi rhyddhau E.P. ‘The Starling’, a gafodd ei chanmol gan y beirniaid, a ddaeth yn rhan cyson o rhestrau chwarae ´óÏó´«Ã½ Radio Wales a ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Mae gallu aruthrol Kizzy i ysgrifennu caneuon yn cyfuno genres amrywiol yn naturiol (gwerin / soul /jazz) ac yn dod â rhywbeth newydd, pur a chyffrous i'r dirwedd gerddorol. Meddyliwch am Joan Armatrading yn canu John Martyn, ond wedyn meddyliwch eto, oherwydd ni all yr un datganiad syml grynhoi cerddoriaeth Kizzy.
(Gan Adam Walton, cyflwynydd ´óÏó´«Ã½ Radio Wales)